Ymchwiliad wedi i gorff gael ei ganfod yn Afon Taf

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Afon Taf fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 10:00 i ddigwyddiad ger Stryd Wood ynghanol Caerdydd.

Mae'r crwner wedi'i hysbysu ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau wrth iddyn nhw geisio canfod amgylchiadau'r farwolaeth.

Bu'n rhaid cau'r ffyrdd cyfagos am gyfnod.

Pynciau cysylltiedig