Rhybudd am wyntoedd cryfion ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
RhybuddFfynhonnell y llun, BBC/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 17 o siroedd Cymru, gan gynnwys Gwynedd lle mae maes yr Eisteddfod

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion wedi ei gyhoeddi ar gyfer diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, wrth i Storm Antoni gyrraedd Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y rhybudd mewn grym ddydd Sadwrn ar gyfer 17 o siroedd Cymru - gan gynnwys Gwynedd.

Fe allai ardaloedd mwyaf arfordirol Cymru weld hyrddiadau o 60-65 milltir yr awr rhwng 08:00 a 20:00 ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl glaw trwm yn Llŷn nos Wener a dydd Sadwrn hefyd.

Ond mae disgwyl i'r amodau gwaethaf fod yn y gorllewin. Nos Wener, fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd oren am wyntoedd cryfion yn siroedd Caerfyrddin, Penfro ac Abertawe rhwng 11:00 a 19:00 ddydd Sadwrn.

Gan ragweld y posibilrwydd o hyrddiadau hyd at 70 milltir yr awr mewn mannau, dywed yr arbenigwyr mai prin iawn y gwelir y fath amodau yn ystod tymor yr haf.

Roedd sioe sirol amaethyddol Aberteifi, oedd fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn, eisoes wedi cael ei chanslo oherwydd y rhagolygon.

Mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer pob sir oni bai am Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig