Sgowtiaid o Gymru i adael gwres eithafol De Corea

  • Cyhoeddwyd
Cae o bebyll yn y jamborî yn ne CoreaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r jamborî'n cael ei ddisgrifio fel gwersyll ieuenctid mwya'r byd

Bydd miloedd o sgowtiaid o'r DU, gan gynnwys 80 o Gymru, yn gadael digwyddiad rhyngwladol yn Ne Corea wedi i wres llethol daro'r wlad.

Mae dros 40,000 o bobl ifanc wedi teithio i'r wlad o bob cwr o'r byd ar gyfer Jamborî Byd y Sgowtiaid, sy'n cael ei gynnal yn yr awyr agored.

Ond fe gafodd cannoedd eu taro'n wael yno oherwydd y tymereddau uchel, a bu'n rhaid galw'r gwasanaethau brys a meddygon o'r fyddin i'r digwyddiad.

Mae mam un sgowt ifanc o Ynys Môn yn dweud ei fod "yn iawn" ac yn mwynhau ei ymweliad, er y gwres.

Dywedodd Cymdeithas y Sgowtiaid bod 4,000 o bobl ifanc o'r DU yn cael eu cludo o Saemangeum i'r brifddinas Seoul, tua 120 o filltiroedd i ffwrdd.

Fe fyddan nhw'n cael ei rhoi mewn gwestai yn y ddinas er mwyn lleddfu'r pwysau ar y prif safle.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Seiriol ar ddechrau ei siwrne o Ynys Môn i Dde Corea

Ymhlith y Cymry ifanc sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad - sy'n cael ei disgrifio fel gwersyll ieuenctid mwya'r byd - mae Iestyn Seiriol, 15, o Landdaniel Fab ar Ynys Môn.

"Ma' Iestyn yn iawn a ma' Iestyn yn mwynhau ei hun er mae'n cwyno bod hi'n boeth!" dywedodd ei fam, Dr Sara Elin Roberts, ar raglen Post Prynhawn.

Dywedodd eu bod wedi cyfnewid negeseuon testun yn ddyddiol, "achos ma' 'na wyth awr o wahaniaeth - pan 'dan ni'n deffro mae o'n cysgu lot o'r amser".

Mae hi hefyd wedi gallu dilyn ei daith trwy'r lluniau mae'n eu cyhoeddi bob dydd ar ei gyfrif Instagram.

Doedd Iestyn, meddai, heb sôn am unrhyw achosion o salwch o fewn ei uned arbennig o, a bod "pawb i weld yn iawn yn fanno".

'Pethau braidd yn ddi-drefn'

Ond dywedodd bod Cymdeithas y Sgowtiaid y DU a Chymru "yn arbennig o dda am edrych ar eu hola'".

"Ma' nhw 'di ca'l eu hannog i yfed digon o ddŵr... a wedi cymryd cama' yn barod i 'neud yn siŵr bod nhw ddim allan yn yr haul ganol dydd ac yn y blaen," meddai Dr Roberts.

"Ond mae o wedi d'eud bod petha' braidd yn ddi-drefn ar y safle... a dydi'r trefniada' hylendid ddim yn wych."

Mae'r BBC wedi gofyn wrth UK Scouts am ymateb wedi honiadau tebyg.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid trin cannoedd o bobl am gyflyrau'n ymwneud â'r gwres

Dywedodd Dr Roberts bod Iestyn yn dychwelyd i Seoul, lle y treuliodd chwe diwrnod cyntaf y trip, ac mai'r bwriad yw i geisio "cario 'mlaen i gael y profiada' o fod yn y jamborî yn fanno yn hytrach".

Ychwanegodd: "Mae o'n dweud bod y jamborî yn debyg iawn i'r 'Steddfod ond yn fwy!"

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid bod gwirfoddolwyr wedi gweithio'n galed i sicrhau bod digon o fwyd, dŵr a chysgod ar gael.

Ychwanegodd bod hi'n fwriad i'r bobl ifanc deithio adref ar 13 Awst, yn unol â'r cynlluniau gwreiddiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod llysgenhadaeth y DU yn y wlad "mewn cysylltiad agos â Scouts UK a byddwn yn parhau i roi cefnogaeth sydd ei angen".

Pynciau cysylltiedig