'Peidiwch rhoi fyny': Cyngor myfyriwr deintyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Siwan Phillips yn ei dillad deintyddiaethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Os ydych chi'n barod i roi gwaith caled mewn, dyle chi anelu'n uchel a peidio rhoi fyny os ydy pethau ddim yn gweithio allan y tro cynta," meddai'r myfyriwr deintyddiaeth Siwan Philips

Mae cyfnod canlyniadau Lefel A a TGAU, pan mae pobl ifanc yn wynebu dewisiadau ynglŷn a'u cam nesaf mewn bywyd, yn gallu bod yn gyfnod dryslyd ac ansicr, yn enwedig pan fo'r broses ymgeisio i rai meysydd yn gallu bod yn anodd.

Dyna oedd profiad Siwan Phillips o Aberystwyth wrth ymgeisio i astudio deintyddiaeth.

Bellach, a hithau ar fin dechrau ei phumed blwyddyn fel myfyriwr ym Mryste, mae hi wedi sgrifennu canllaw i helpu darpar-fyfyrwyr sy'n wynebu'r un rhwystrau ag oedd hi dros bum mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â chael rhannau o'r cwrs Lefel A yn anodd, roedd y rhwystrau brofodd Siwan yn cynnwys bod â dim syniad sut i fynd ati gyda'r prawf UCAT (arholiad mynediad) a chael ei gwrthod ddwywaith cyn hyd yn oed cael cyfweliad.

"Ond gyda dycnwch a gwaith caled, ges i fy nerbyn i Ysgol Ddeintyddiaeth Bryste," meddai Siwan sy'n 22 mlwydd oed.

Mae Siwan yn gobeithio bod rhannu ei phrofiad yn helpu pobl ifanc o gefndiroedd tebyg iddi i ymgeisio yn llwyddiannus a rhoi hyder iddyn nhw y gallan nhw lwyddo mewn maes cystadleuol.

Y broses

"Mi wnes i ddechrau gwneud fy nghais i'r brifysgol nôl yn 2018 a bryd hynny dim ond fi yn fy ysgol oedd yn ceisio am ddeintyddiaeth a doedd neb yn fy nheulu yn y byd deintyddol," eglurodd wrth Cymru Fyw.

"Mae'r broses gwneud cais i wneud deintyddiaeth yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf o gyrsiau (ac eithrio meddygaeth) gyda arholiad mynediad ychwanegol, dyddiad cau misoedd cyn pynciau eraill a chyfweliadau.

"Heb unrhyw gyfeiriadaeth gan yr ysgol roedd yn rhaid i mi weithio allan y broses tra'n mynd drwyddo yng nghanol fy Lefel A!

"Yn anffodus, dyma mae nifer o ddarpar-fyfyrwyr yn gorfod mynd trwyddo ac mae'n ffynhonnell o straen diangen yn nghanol cyfnod mor brysur."

Ffynhonnell y llun, Siwan Phillips/canva.com
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o ganllaw Siwan i ddarpar-fyfyrwyr

Penderfynodd Siwan mai deintydd roedd hi am fod ar ôl mynd am brofiad gwaith i ddeintyddfa pan roedd hi'n 14 mlwydd oed.

"Roeddwn yn gallu gweld fy hun yn y proffesiwn yn syth. Dwi'n hoff o sut mae'r proffesiwn yn cyfuno gwyddoniaeth, creadigrwydd a gweithio efo pobl i gyd o fewn un lle ac un apwyntiad," meddai.

Angen mwy o gefnogaeth tu hwnt i ysgolion preifat

Ond mae'n dweud nad yw hi'n hawdd i ddisgyblion o bob cefndir ymgeisio am le mewn ysgol ddeintyddol:

"Mae cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth efo hanes o gael nifer anghymesur o ddisgyblion ysgolion preifat," meddai.

"Ac er bod llawer yn cael ei wneud i geisio sicrhau bod disgyblion o bob cefndir â'r un tegwch i fynd i astudio deintyddiaeth, does dim dwywaith bod ysgolion sydd â mwy o adnoddau yn medru cefnogi eu disgyblion yn well yn y broses e.e. efo tiwtoriaid penodol a chymorth ar gyfer yr UCAT a chyfweliadau.

"Credaf yn gryf bod yna gyfle i wneud mwy i gefnogi disgyblion o bob cefndir yn y broses o geisio mynd mewn i'r meysydd cystadleuol yma. Am wn i mai dyna pam 'nes i gael fy ysbrydoli i ysgrifennu'r canllaw."

Enw ei chanllaw 15 tudalen ydi So You Want To Go To Dental School? ac mae ar gael am ddim yn adran bio ei thudalen Instagram lle mae hefyd yn rhannu lluniau a fideos sy'n ymwneud â bywyd fel myfyrwraig deintyddol.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan siwandentalstudent

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan siwandentalstudent

"Yn bersonol, base cael rhyw fath o gyfarwyddyd ar y broses wedi lleihau y straen 'nes i ei deimlo!" meddai wrth edrych nôl ar y disgybl 17 oed oedd hi.

"Yn anffodus, mae'r broses yn hynod o gystadleuol gydag amcan o 15 ymgeisydd i bob un lle mewn ysgol ddeintyddol felly mae gwrthodiad yn aml yn rhan o'r broses ac mae hynny yn gallu bod yn anodd iawn o ystyried bod y darpar-fyfyrwyr on track i gael A/A* ym mhob pwnc Lefel A!"

Paratoi a 'top tips'

Felly i unrhyw un sy'n ystyried mynd i'r maes, beth sydd angen ei wneud a faint ymlaen llaw?

"Mae'r dyddiad cau i astudio deintyddiaeth yn y brifysgol yn mis Hydref - pedwar mis cyn y dyddiad cau i bob cwrs arall (ac eithrio meddygaeth).

"Ond cyn rhoi cais mae'n rhaid sefyll yr arholiad UCAT yn yr haf. Ac mewn byd delfrydol dylai ymgeisydd hefyd ddangos profiad gwaith yn y maes, felly yn y pendraw mae'r broses ymgeisio yn cychwyn nifer o fisoedd cyn y dyddiad cau!"

Mae arholiad UCAT - University Clinical Apitude Test - yn arholiad mynediad mae darpar-fyfyrwyr meddygol a deintyddol yn gorfod ei sefyll fel rhan o'r broses o roi cais.

"Mae'n arholiad amgen gyda agweddau cwbl wahanol i unrhyw arholiad arall base chi wedi sefyll," eglura Siwan.

"Er hyn, mae yna lwyth o adnoddau ar lein sy'n wych am esbonio'r gwahanol gydrannau i'r arholiad.

"Yn fy nghanllaw mae gena"i fy 'top tips' yn ogystal â rhestr o adnoddau wnes i a fy nghyd-ddisgyblion deintyddol eu defnyddio.

"Mae cael profiad gwaith i unrhyw ddiwydiant rydych efo diddordeb dilyn gyrfa mewn yn amhrisiadwy ac, yn benodol pan yn gobeithio astudio cyrsiau iechyd, weithiau yn orfodol.

"Mae gallu gweld y proffesiwn ar waith yn eich galluogi i weld os ydych yn 'ffitio mewn', ac yn rhoi'r cyfle i chi ystyried ydy'r swydd yn apelio cyn i chi gysegru llawer o amser, egni ac arian i mewn i'w astudio."

'Anelwch yn uchel'

Mae gan Siwan flwyddyn ar ôl yn y brifysgol ac yn ystod y flwyddyn fe fydd yn cychwyn y broses o geisio am ei swydd gynta' trwy broses recriwtio deintyddol cenedlaethol y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â sefyll nifer o arholiadau.

"Erbyn mis Mai (croesi bysedd!) mi fydda i'n cymhwyso fel deintydd cyn cychwyn ar fy DFT (blwyddyn sylfaenol) yn mis Medi!"

Beth yw ei chyngor i fyfyrwyr sydd efallai ynghanol cyfnod Lefel A a chanlyniadau ar y funud?

"Mae cyfnod Lefel A a diwrnod canlyniadau heb os yn gyfnod llawn straen ac ansicrwydd, ond i mi y peth pwysicaf i gofio ydy i roi o'ch gorau i bob arholiad/cais prifysgol. Os ydych chi'n barod i roi gwaith caled mewn i'r broses, dyle chi anelu'n uchel a peidio rhoi fyny os ydy pethau ddim yn gweithio allan y tro cynta' - trio a thrio eto!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig