Rhybudd am law trwm i fwyafrif y wlad ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 13 o siroedd rhwng hanner nos a 21:00 nos Lun

Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer y mwyafrif helaeth o Gymru ddydd Llun.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 13 o siroedd rhwng hanner nos a 21:00 nos Lun.

Dim ond rhannau o'r de-ddwyrain sydd ddim yn ardal y rhybudd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd hyd at 40mm o law yn disgyn mewn "sawl ardal o fewn y rhybudd", ond y gallai hyd at 80mm o law ddisgyn mewn cyfnod o dair i chwe awr mewn ambell fan.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai arwain at lifogydd, a'i bod yn debygol mai gogledd-orllewin Cymru fydd yn wynebu'r tywydd gwaethaf.

Pynciau cysylltiedig