Cartŵn a Chywydd: Dwi awydd ail Foduan!
- Cyhoeddwyd
Gydag Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wedi dod i ben, Cymru Fyw sydd wedi gofyn i'r prifardd a'r cartwnydd, Meirion MacIntyre Huws, lunio cartŵn a chywydd ar eich cyfer.
Mwynhewch, ac ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024!
Dwi awydd ail Foduan!
Da! O! Da oedd Boduan:
Tŷ Gwerin, chwerthin a chân,
wythnos pan nad oedd nosi
ar fy hen ŵyl annwyl i
a hithau'r iaith orau 'rioed
yn cynnal llanc a henoed.
Ond ow! Fe ddaeth i'w diwedd.
Waeth i mi â syrthio i 'medd.
Ll'gadau uwchben sachau sy',
arennau'n dechrau crynu
a rhyw 'Be wna-i?' erbyn nos
"Agor y botel agos?'
Â'r garafan at ei hanner
mewn geriach cant o blant blêr
un di-awch a llesg yw dyn
â'i ymennydd fel menyn,
a'r gwagedd oer a'r gwgu
mawr mwll ym mhob twll o'r tŷ.
Eto i gyd ail wynt a gaf
yn dŵad drwy'r gwyll duaf;
wythnos hir sy'n cosi'r co',
yn hwb i droi'r niwl heibio.
Yn dow-dow mi gaf ail dân,
dwi awydd ail Foduan!
Meirion MacIntyre Huws
Awst 2023