Storm Betty: Rhybudd am wyntoedd cryfion yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ddydd Gwener a dydd Sadwrn wrth i Storm Betty daro gorllewin Cymru.
Roedd rhybudd melyn mewn grym yn wreiddiol rhwng 00:00 a 18:00 ddydd Gwener, ond mae hwnnw bellach yn weithredol rhwng 18:00 nos Wener a 12:00 brynhawn Sadwrn.
Mae disgwyl hyrddiadau o 45-55mya yn eang ar draws ardal y rhybudd, ac mae siawns gall y gwynt cyrraedd hyd at 70mya mewn rhai mannau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd garw lorio coed, gan effeithio ar wasanaethau bws a thrên, a'r ffyrdd.
Mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
Mae cwmni Irish Ferries eisoes wedi penderfynu canslo'r fferi gyflym rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Sadwrn.