Nofiwr yn yr ysbyty ar ôl cael ei achub yn Sir Fôn

  • Cyhoeddwyd
Porth DafarchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd timau achub eu galw i Borth Dafarch brynhawn Sul

Mae nofiwr wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei achub o'r creigiau ym Mhorth Dafarch yn Sir Fôn brynhawn Sul.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi y cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 14:25.

Fe gafodd tîm achub Moelfre eu galw hefyd, yn ogystal â dau gwch o Fae Trearddur.

Pynciau cysylltiedig