Carcharu dyn o Wynedd am sarhau merched ifanc ar drên
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi cael ei garcharu am wyth wythnos ar ôl sarhau a bygwth grŵp o ferched yn eu harddegau ar drên.
Fe wnaeth Nicholas Lyon, 40, o Gricieth bledio'n euog i'r cyhuddiadau yn Llys Ynadon Caernarfon, ac fe gafodd orchymyn hefyd i dalu cyfanswm o £239 mewn costau.
Clywodd y llys fod y grŵp o ferched wedi mynd ar y trên yng Nghyffordd Llandudno am tua 16:20 ar 30 Rhagfyr llynedd, ac eistedd ar fwrdd gyda'i gilydd.
Roedd Lyon eisoes ar y trên ac fe eisteddodd ger y merched, wnaeth sylwi ei fod yn siarad ar ei ffôn symudol ac yn yfed fodca yn syth o'r botel.
Ar ôl ceisio dechrau sgwrsio gyda'r merched, fe wnaeth Lyon droi a dechrau bygwth trais tuag atynt, gan ddefnyddio geiriau sarhaus.
Fe wnaeth dwy o'r merched adael y bwrdd, tra bod dwy arall yn dweud eu bod yn rhy ofnus i symud.
'Digwyddiad dychrynllyd'
Pan gyrhaeddodd y trên orsaf Bangor, fe wnaeth Lyon un sylw sarhaus olaf i'r merched cyn gadael y trên. Cafodd ei arestio'n ddiweddarach y noson honno.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig o gas a dychrynllyd i'r rheiny oedd yn rhan ohono," meddai PC Hayley Harder o Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
"Hoffwn ddiolch i'r merched am eu cymorth a'u dewrder wrth helpu i roi Lyons yn y carchar, ble dylai fod.
"Ddylai neb orfod gael eu sarhau neu ddioddef bygythiadau o drais wrth deithio ar ein rhwydwaith drenau. Rwyf yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon o garchar yn neges glir y byddwn ni wastad yn gweithredu mewn achosion o'r fath."