Carchar i bennaeth giang gyffuriau am recriwtio bachgen, 15
- Cyhoeddwyd

Dwayde Stock oedd yn arwain giang gyffuriau yng Nghasnewydd wnaeth gymryd mantais o fachgen ysgol bregus
Mae arweinydd giang a recriwtiodd fachgen "bregus" 15 oed i werthu cyffuriau, wedi cael ei garcharu am naw mlynedd.
Cafodd Dwayde Stock, 28, o Gasnewydd, ei recordio yn siarad gyda'r bachgen ar ffôn yn y carchar lle roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Ebrill 2022 tra'n disgwyl achos llys.
Mae pum aelod arall o'r giang county lines hefyd wedi cael eu carcharu.
Plediodd Stock a dau ddyn arall o Gasnewydd - David Allen, 30, a Justin Henshall, 36 - yn euog i gyhuddiadau o fasnachu plentyn, a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Clywodd Llys y Goron Abertawe eu bod wedi defnyddio'r bachgen i werthu cyffuriau i bobl yn eu harddegau yng Nghastell-nedd.
Cafodd Allen wyth mlynedd o garchar a Henshall chwe mlynedd ac wyth mis.
Roedd cofnodion ffonau symudol yn dangos fod y giang wedi cysylltu â'r bachgen dros y ffôn 324 o weithiau mewn llai na chwe mis.

Cafodd David Allen (chwith) a Justin Henshall eu carcharu am droseddau cyffuriau a chaethwasiaeth fodern

Joshua Jefferies (chwith), Bernard Hurely (canol) ac Ottis Jefferies
Cafodd Joshua Jefferies, 32, dair blynedd ac wyth mis o garchar, ac Ottis Jefferies, 28, a Bernard Hurely, 37, ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis yr un am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Plediodd dau aelod arall o'r giang - Kenzie Booth, 19, o Gasnewydd, a Ruth Lawrence, 38, o Donypandy, Rhondda Cynon Taf - i'r un cyhuddiad.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu fis nesaf.