Cwmni ynni i noddi Arena Ryngwladol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Utilita Arena Caerdydd fydd enw newydd Arena Ryngwladol Caerdydd yn dilyn cytundeb gyda chwmni sy'n cyflenwi trydan a nwy.
Mae arwyddion newydd yn cael eu gosod ar yr adeilad, sydd â lle ar gyfer 7,500 o bobl, ac mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol ddydd Gwener.
Dyw hi ddim yn glir beth yw hyd na gwerth y cytundeb.
Agorwyd yr arena, sy'n eiddo i Live Nation UK, ym mis Medi 1993 gan y Fonesig Shirley Bassey.
Ym mis Mawrth 2011, ail-enwyd yr arena yn Arena Motorpoint Caerdydd, wedi cytundeb pum mlynedd gyda'r cwmni gwerthu ceir.
Fe gafodd y cytundeb gyda Motorpoint ei ymestyn tan fis Medi 2022, pan wnaeth yr arena ddychwelyd i'r enw gwreiddiol.
Artistiaid o fri
Ymhlith yr artistiaid sydd wedi perfformio yn yr arena mae Kylie Minogue, Beyoncé, Lady Gaga, Iron Maiden, Alice Cooper, Dolly Parton, Nicky Minaj, Arctic Monkeys, Catatonia a Manic Street Preachers.
Ym mis Tachwedd 2014, fe berfformiodd y digrifwr Lee Evans ei sioe olaf cyn ymddeol o gomedi byw yn yr arena.
Mae hefyd wedi cynnal Cynghrair Dartiau'r Pencampwyr a phencampwriaeth snwcer Agored Cymru.
Mae'r noddwr newydd, Utilita Energy, yn gyflenwr trydan a nwy, gafodd ei sefydlu yn 2003 er mwyn herio'r prif gwmnïau ynni, ac mae ganddo tua 800,000 o gwsmeriaid.
Mae Utilita hefyd wedi sicrhau cytundebau hawliau enwi Arena Birmingham ac Arena Newcastle, sydd eisoes wedi mabwysiadu'r enw Utilita.