Creu delweddau tra'n nofio yn Y Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae Glyn Davies yn ffotograffydd proffesiynol sy'n byw ym Mhorthaethwy. Mae'n hoff iawn o nofio yn y môr, ac mae'n tynnu lluniau tra mae yn y dŵr.
Yn ddiweddar fe wnaeth Glyn herio'i hun i nofio yn y môr bob dydd, gan amlaf yn Y Fenai. Tra'n gwneud hyn mae wedi dal delweddau cwbl arbennig o'r dŵr, ac o arfordir Môn a'r tir mawr.
"Yng ngwanwyn 2022, fel dihangfa rhag ofn, tywyllwch a rhwystredigaeth cyfyngiadau Covid, dechreuais nofio bob dydd, nid fel her, ond am resymau iechyd meddwl. Dwi'n caru bod yn y môr, dyna fy lle hapus!
"Ym mis Hydref ymunais â her 'Dip a Day' am fis i godi arian i 'Surfers Against Sewage'. Maen nhw'n sefydliad anhygoel sy'n ymgyrchu yn erbyn llygredd yn ein hafonydd a'r môr oherwydd gweithredoedd cwmnïau dŵr diofal.
"Dechreuais dynnu lluniau ac ysgrifennu dyddiadur am fy her, gan bostio'r dyddiaduron ar dudalen Facebook SAS. Anogais eraill yn ystod eu her gan nad oedd llawer o'r bobl a oedd yn dilyn y dudalen wedi arfer nofio y tu hwnt i fisoedd yr haf. Roedd cyfeillgarwch hyfryd rhyngom, yn gefnogol iawn i'n gilydd, ac yn annog ein gilydd ymlaen.
"Gan fy mod i wedi nofio drwy'r gaeaf o'r blaen doeddwn i ddim yn gweld y môr yn her o gwbl gan ei fod yn dal i deimlo'n gynnes i mi. Ond roedd y pwysau i nofio bob dydd yn her i lawer ohonom. Codais tua £600 i'r elusen ond penderfynais wedyn ddal ati, bob dydd yn ddi-ffael, cyhyd ag y gallwn fel her bersonol."
Mae'r Fenai'n cael ei ystyried fel man sy'n gallu bod yn beryg iawn i'w nofio ynddi.
"Dydw i ddim yn ei chael hi'n anodd bod mewn dŵr oer. Rwy'n mwynhau'r wefr o fod mewn dŵr oer yn fawr. Mewn ffordd, mae dadwisgo mewn gwyntoedd gogleddol oer, neu pan fydd hi'n bwrw eira, yn anoddach na bod yn y môr. Mae'n ddoniol ond yn aml pan dwi yn y môr yn y gaeaf dwi'n meddwl 'diolch i Dduw, dwi allan o'r gwynt oer!'
"Yn Afon Menai, mae'r llanw a'r cerhyntau yn peri mwy o bryder - maen nhw'n bwerus iawn, ac allwch chi ddim nofio yn eu herbyn. Rwy'n ceisio nofio ar lanw penllanw pan fydda i'n sicr o ddwy awr o lanw uchel, felly mae'r tyniad llanw yn llai, a dydw i ddim yn mynd yn agos at sianel ganolog y Fenai.
"Rwy'n cadw'n agos at y lan yn y gaeaf. Yn yr haf, yn y môr cynnes, gallwch ddefnyddio'r llanw i wneud y nofio'n hwyliog a chyflym i un cyfeiriad.
"Dwi ddim yn nofiwr gwirion. Dydw i ddim eisiau boddi na disgwyl i bobl eraill fy achub. Rwy'n gwneud fy ngorau i osgoi perygl er gwaethaf nofio mewn stormydd. Rwyf bob amser yn dod o hyd i'r lleoliadau mwyaf diogel, cysgodol, a dyna'r fantais o fyw ar ynys.
"Mae gwyliau'r haf yn golygu jet-skis a chychod cyflym ar y Fenai, yn aml yn cael eu gyrru gan bobl heb gwrteisi na gwybodaeth am y côd morwrol. Rwy'n defnyddio fflôt tynnu melyn neon i wneud fy hun yn fwy gweladwy."
Tynnu lluniau o'r dŵr
"Rwyf wedi bod yn defnyddio fy iPhone i ddogfennu fy sesiynau nofio, ond 'nes i hefyd brynu offer camera sydd yn waterproof o America, sy'n caniatáu i mi saethu delweddau o ansawdd uchel ar fy nghamera proffesiynol i.
"Oherwydd mod i'n nofio mewn siorts yn unig, os yw'r môr a'r tywydd yn wirioneddol oer, dim ond ychydig funudau alla i dreulio yn y dŵr, felly mae'n anodd creu delweddau proffesiynol yn y môr adeg y gaeaf. Dwi 'di gwisgo siwt wlyb ddwywaith cyn nofio mewn dŵr oer, er mwyn gallu saethu rhai ffotograffau proffesiynol.
"Mae llawer o'm morluniau a lluniau tonnau bellach i'w gweld ar fy ngwefan, dolen allanol, a gellir eu prynu ar-lein."
Ar ddiwedd y sialens roedd gan Glyn nifer o wahanol emosiynau: "Roedd rhan ohonai'n hapus i gael gwared o'r pwysau, ond doedd rhan arall ohonai ddim eisiau rhoi'r gorau i nofio bob dydd.
"Roeddwn wedi cysylltu â chymaint o bobl oedd â diddordeb yn fy her ac yn gefnogol, felly roeddwn i'n poeni y byddwn i wedyn yn colli'r gefnogaeth emosiynol a meddyliol ges i.
"Rydw i wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers bron i 40 mlynedd, ac yn rhyfeddol, mae fy her nofio ddyddiol wedi atseinio gyda nofwyr eraill, ac rwy'n teimlo cymaint o gefnogaeth. Rwyf wedi cael fy ngwneud i deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi ac yn angenrheidiol ar gyfer fy nofio, ac mae hynny'n deimlad hynod braf. Doeddwn i ddim eisiau iddo ddod i ben ar ôl i'r her ddod i ben."
Heriau yn y môr
Mae Glyn yn dweud mai un o'r agweddau anoddaf o nofio yn môr oedd y slefrod môr oedd yn ei bigo ym mis Mehefin a Gorffennaf.
Ond roedd rhai adegau gwirioneddol isel eraill hefyd.
"'Nes i nofio y bore bu farw fy ffrind gorau, y llawfeddyg orthopedig Mel Jones. Roedd hynny'n wirioneddol anodd gan fy mod yn crio wrth nofio - roedden ni'n agos iawn.
"Mewn cyd-ddigwyddiad, ar yr un bore a honno ym mis Tachwedd, mewn tonnau mawr, peryglus, anfonodd tad ei blentyn allan ar bodyboard, tra'n cael dau o blant llai fyth yn barod i wneud yr un peth. Cafodd y plentyn cyntaf ei ddal mewn rhwyg a sgrechian ond doedd y tad ddim yn ei glywed. Er fy mod wedi bod i mewn am 20 munud yn barod, dechreuais nofio yn galed i gyrraedd y plentyn, a dawelodd wedyn - dilynodd fy nghyfaill Kamal, a oedd yn gwisgo siwt wlyb. Roedden ni i gyd bellach yn y rip.
"Gwthiais y plentyn yn galed tuag at y tad yn nes at y lan, a oedd wedyn yn ymddangos yn symud tua'r traeth, ond roeddwn yn gwybod fy mod bellach mewn trafferth yn y dŵr oer a'r môr garw. Doedd gen i ddim egni i nofio ar draws y rip fel sy'n cael ei gynghori, ac yn onest, roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn i'n boddi.
"Nofiais tuag at y creigiau yn lle hynny ac yn ddiolchgar llwyddais i ddringo allan. 'Nathon ni weiddi ar y tad i anelu am y creigiau, fel y gwnaethom ni, a diolch i Dduw a glywodd ac o'r diwedd llwyddodd i gydio yn y creigiau. Aeth Kamal a minnau yn ôl i'r môr ymhlith y creigiau a ffurfio cadwyn i lusgo'r ddau allan. Fe wnaethon ni i gyd oroesi ond fe waeddodd y plentyn, gwaeddodd y tad, crio, a chafodd Kamal sioc llwyr.
"Roeddwn i wedi bod yn y môr oer am 45 munud mewn dim ond fy siorts - mae'n rhaid mai adrenalin nath fy nghadw i'n fyw. Doedd neb ar lwybr y clogwyni wedi ffonio 999, a oedd yn sioc fawr i mi. Felly, ar y diwrnod y bu farw fy ffrind gorau, fe 'nes i helpu hefyd i achub bywyd plentyn - deuoliaeth mor rhyfedd a chymysgedd mor bwerus o emosiynau."
Diwrnod ola'r her
"Roedd llwyth o gefnogwyr wedi dod i ymuno â mi ar gyfer fy nofio olaf, yn Tyn Tywyn, y rhan fwyaf ohonynt nad oeddwn i erioed wedi cwrdd â nhw mewn bywyd go iawn.
"Roedd rhai pobl hyd yn oed wedi aildrefnu gwyliau i ymuno â mi! Roedd eraill wedi teithio dros 100 milltir a mwy i ymuno. 'Nath y tywydd ofnadwy stopio a daeth heulwen hyfryd drwy'r cymylau gan greu enfys ddwbl anferth uwch ein pennau.
"Ar ôl hanner awr neu fwy o'r môr gwyllt, yn araf bach daeth pobl yn ôl i'r maes parcio i gael coffi, cacennau, siocled… a Prosecco! Cefais anrhegion a llwyth o gofleidio ac yna gofynnwyd i mi roi araith! Roeddwn mor emosiynol fel na allai gofio popeth arall a ddwedais yn iawn, ond roeddwn mewn dagrau, ac felly hefyd y rhan fwyaf o'r rhai a oedd yn gwrando.
"Cytunodd pawb y byddem yn gwneud hwn yn ddigwyddiad blynyddol a dywedodd pobl eu bod eisoes wedi ei roi yn eu dyddiaduron!"
Mae Glyn yn falch ei fod yn gallu llwyfannu gogledd Cymru ar ei gorau ar ffilm ac yn ei ddyddiaduron: "Dylwn i fod yn dywysydd twristiaid gan y bydd llawer o bobl yn ymweld ag Ynys Môn oherwydd eu bod wedi mwynhau fy nyddiaduron lluniau gymaint. Dwi'n CARU creu delweddau, a dwi'n CARU sgwennu, felly mae cyhoeddi'r dyddiaduron wedi bod mor gyffrous (bron!) â'r nofio ei hun.
"Yn ystod blwyddyn yr her bu cymaint o brofiadau cadarnhaol, hapus, mwy nag y gallaf ei gofio, ond yn eironig, y cyd-nofwyr yr wyf wedi cyfarfod â nhw ar-lein sydd wedi bod yn rhoi'r boddhad mwyaf i mi. Rwyf wedi mwynhau rhannu'r ynys hardd hon ag eraill yn fawr ac wedi rhoi'r cymhelliant i mi archwilio'r arfordir o'r môr mewn lleoliadau hynod ddiddorol."
Mae Glyn wrth ei fodd yn nofio ar ben ei hun, ac yn cael amser i feddwl tra mae yn y dŵr. Ond mae hefyd wedi bod yn nofio gyda rhai o'i ffrindiau, yn enwedig Kamal.
"Er ei fod yn nofiwr rhagorol, mae'n hapus i arafu a nofio gyda fi, ac mae'n mwynhau edrych ar y byd o'r môr. Un diwrnod yn yr Hydref aethon ni i ddringo yn Rhoscolyn ond roedd hi mor boeth a heulog nes bod y ddau ohonom ni, heb ofal yn y byd, wedi tynnu oddi arno a neidio i'r môr dwfn iawn.
"Gwelsom y clogwyni'n diflannu i'r môr a gwnaeth i ni sylweddoli pa mor ddwfn oedd y dŵr. Gwelsom goedwigoedd o wymon yn siglo yn y tywyllwch islaw, a oedd yn ddychrynllyd, ond roedd dau ffrind yn chwerthin, yn sgwrsio, ac yn nofio yn y noethlymun ar yr wyneb heulog, yn wallgof, yn wrthryfelgar ac eto yn gysurlon rhywsut.
"Un noson haf diwethaf es i nofio yn Gallows Point ger Biwmares. Roedd y môr mor dawel a'r dŵr mor gynnes. Roedd yr awyr yn gyfuniad meddal o binc ac oren ac roedd na'r fath dawelwch. Roeddwn mewn heddwch, dim ofn, na meddyliau cythryblus. Es i at y deintydd i gael triniaeth wythnos yn ddiweddarach, ond aeth fy meddwl yn ôl i'r nofio y dydd hwnnw, ac yn rhyfeddol, teimlais fy hun yn ymlacio yn ystod y driniaeth.
"Fel arfer, dwi'n osgoi nofio ym Mhorth Trecastell ond un diwrnod ym mis Mehefin doedd gen i ddim dewis. Gwelais Crancod heglog, pysgodyn, a Dogfish araf, gosgeiddig (fel siarc bach). Cefais fy swyno'n llwyr. Ar ôl y diwrnod hwnnw roeddwn yn siomedig os na welais unrhyw fywyd môr wrth nofio."
Mae Glyn hefyd wedi nofio oddi ar arfordir Cernyw am chwe wythnos, nofio ym Mhortiwgal, mewn llyn yn Sir Gaer ar Ddydd Calan ac mewn afon fawnog ddofn yn y Peak District.
Yr her nesa'?
"Rwy'n dal i nofio bron bob dydd ond dwi ddim yn meddwl 'mae rhaid i mi'. Rwyf wrth fy modd ac angen y môr, mae yn fy nghalon ac enaid, mae'n fy ngwneud yn berson gwell, hapusach. Mae gen i gymaint o bethau i ddychwelyd iddyn nhw, a rhai i ddechrau o'r newydd, o amser gyda theulu, teithio, dringo, cerdded mynyddoedd, ffotograffiaeth tirwedd a rhoi trefn ar fy oriel newydd.
"Rwy'n bwriadu cyhoeddi llyfr am fy her nofio, a byddaf yn parhau i greu dyddiaduron darluniadol gan gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yn gyfnod a newidiodd fywyd, mewn cymaint o ffyrdd."