Trafferthion i deithwyr awyr i barhau 'am rai dyddiau'
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr o Gymru'n parhau i wynebu oedi hir cyn hedfan, yn sgil problem gyda system rheoli gofod awyr y DU dros y penwythnos.
Mae gwasanaeth rheoli awyrle'r DU, NATS, wedi dechrau ymchwiliad i'r nam technegol a arweiniodd at ganslo cannoedd o hediadau ddydd Sul.
Er i'r broblem gael ei datrys o fewn ychydig oriau, mae yna rybudd y gallai'r effaith barhau am rai dyddiau.
Ond mae'r sefyllfa i weld wedi gwella ym maes awyr Caerdydd bellach, lle mae'r "rhan fwyaf o hediadau wedi dal i fyny yn gyflym," yn ôl y prif weithredwr.
Dywedodd y sylwebydd trafnidiaeth Rhodri Clark wrth raglen Dros Frecwast bod trafferthion i'w disgwyl "am ddiwrnodau eto" wedi'r nam cyfrifiadurol, a olygodd bod staff wedi gorfod prosesu pob hediad yn unigol.
"Yn anffodus, mae'r broblem yma wedi digwydd ar un o ddiwrnodau gwaetha'r flwyddyn," meddai.
"Mae gymaint o bobl isio dod yn ôl i'r Deyrnas Unedig ar ddiwedd gwyliau'r haf achos mae'r ysgolion ar fin ailgychwyn, ac mae pobl yn mynd yn ôl i'r gwaith."
Fe fydd dod yn ôl i'r drefn arferol yn "anodd iawn" i'r awdurdodau, meddai, gan fod "rhai o'r awyrennau yn y lle anghywir" ac mae cyfyngiadau ar oriau gwaith peilotiaid yn golygu bod angen cyfnod gorffwys cyn gallu hedfan eto.
"Mae 'na lot o bobl oedd i fod wedi hedfan ddoe yn mynd i hedfan heddiw, ond mae 'na bobl eraill sydd i fod i hedfan heddiw. Bydd rhaid i'r cwmnïau awyr drio datrys y broblem yna achos bod 'na fwy o bobl isio hedfan heddiw na sydd lle ar yr awyren."
Roedd y sefyllfa'n destun pryder i Victoria Cadwallader-Webb, o Aberdâr, sydd wedi bod yn aros am oriau mewn maes awyr ym Mwlgaria er mwyn hedfan yn ôl i Gaerdydd.
A hithau'n byw gyda diabetes math 1, mae ganddi ond digon o feddyginiaeth gyda hi i bara am 12 awr.
Fe gysylltodd â Maes Awyr Caerdydd ar ôl dod i ddeall bod disgwyl dwy awr o oedi "oherwydd problem amserlennu", a chael yr ateb "bod hynny'n "normal".
"Ro'n i'n cael negeseuon testun yn dweud y bydde 'na oedi ac i fynd i'r maes awyr. Nes i ffonio TUI yn y DU a deud 'mae gen i gyflwr meddygol.... be ddyliwn i wneud? Teithio ai peidio?' Mae gen i fflat ym Mwlgaria felly fe fyddai'n hawdd i aros yma'n hirach petai angen."
'Dim cyfarwyddiadau clir'
Ar sail y cyngor a gafodd, fe deithiodd i'r maes awyr, gan dderbyn negeseuon cyson yn datgan mai dim ond dwy awr o oedi oedd i'w ddisgwyl, er ei bod hi'n amau'n gryf y byddai'n aros yn ei hunfan am gyfnod hirach.
Er bod ganddi ddigon o inswlin arni i bara am hyd at 12 awr, mae ei meddyginiaeth atodol yn ei chês.
Mynegodd rwystredigaeth bod dim digon o staff o gwmpas iddi drafod ei sefyllfa gyda nhw, gan ddweud y dylai cwmnïau fod wedi dysgu gwersi o broblemau tebyg yn y gorffennol - fel yn 2010 pan fu'n rhaid canslo hediadau ar draws Ewrop wedi i losgfynydd ffrwydro yng Ngwlad yr Ia.
"Does dim cyfarwyddiadau clir o ran beth ddylen ni wneud. Mae pobl wedi parcio'u ceir yng Nghaerdydd ac mae'r tocyn ar fin darfod, maen nhw'n mynd yn ôl i'r gwaith fory."
Fe laniodd Simon Morgan o Gaerffili, a'i gymar Kat ym Maes Awyr Birmingham nos Lun wedi wyth awr yn eistedd ar yr awyren yn Rhufain.
Doedd "dim golwg" o staff trin bagiau, meddai, ac roedd yna "anhrefn yn y meysydd parcio, oherwydd dyw'r staff parcio ddim yn gwybod pryd mae pobl yn cyrraedd".
Dywedodd hefyd eu bod ond wedi cael cynnig un bar o siocled yn y cyfnod roedden nhw'n aros ar yr awyren.
Gan fod Mr Morgan a'i gymar yn gweithio fel trefnwyr teithiau, fe wnaethon nhw dreulio hanner awr ym Maes Awyr Birmingham cyn gadael yn helpu teithwyr eraill i aildrefnu gwyliau oedd wedi eu canslo yn sgil y trafferthion.
'Blin, ypset a phryderus'
Dywedodd Steph Wagstaff o Bontypridd, ei bod hi a'i theulu wedi gorfod cysgu ar lawr y maes awyr wedi i'w hediad o'r Ynysoedd Dedwydd i Fryste gael ei chanslo.
"Mae dau fachgen 10 oed, Tyler a Fynn, ar gadeiriau, Gracie sy'n bump oed ar gylch nofio rwber, a Nyah sy'n dair oed, yn y stroller.
Roedd y teulu wedi cyrraedd y maes awyr am 19:45 nos Lun, ac roeddynt yn dal yn sownd yno fore Mawrth.
"Dim ond newydd lwyddo i fynd i gysgu y mae fy mhartner a dwi ddim wedi cysgu ers 9:00 fore ddoe [Llun].
"Dydyn ni byth wedi cael syniad am y camau nesaf, does gan unrhyw staff yn y maes awyr ddim syniad beth sy'n digwydd chwaith.
"Dwi'n flin, ypset a phryderus oherwydd ein bod ni yn y niwl, a dwi fod i ddychwelyd I'r gwaith fore Mercher felly dwi'n poeni y gallwn golli fy ngwaith."
'Anhrefn llwyr'
Roedd Katrina Dimech, 35, o Benarth, i fod i hedfan i Gran Canaria o faes awyr Bryste ddydd Llun, gydag aelodau eraill o'r teulu - ei thad, Tony, ei phartner Richard, 42, ei mab Oliver, 10, a'u merch 18 mis oed, Ava.
"Roeddwn i'n gallu dweud fod rhywbeth ddim cweit yn iawn am bod y maes awyr mor brysur a doeddwn i ddim yn clywed awyrennau'n codi neu'n glanio," meddai.
"Doedd 'na ddim math o gyhoeddiad yn y maes awyr ac roedd rhaid i mi ddarllen ar-lein bod 'na rhyw fath o drafferth efo'r system rheoli gofod awyr.
"Roedd hi'n anhrefn llwyr, gyda dim seti o gwbl felly roedd pobl yn gorfod eistedd ar y llawr.
"Pan gawson ni glywed am 21:00 bod ein hediadau wedi cael eu canslo ac nad oedden nhw am roi neb mewn gwesty na helpu gyda thrafnidiaeth, roedd pobl yn beichio crïo."
Mae'r teulu bellach yn ôl ym Mhenarth ac yn gobeithio dod o hyd i wyliau arall, munud olaf.
Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Spencer Birns: "Yn dilyn y trafferth technegol gyda'r system rheoli gofod awyr, mae'r rhan fwyaf o'n hediadau wedi dal i fyny'n gyflym ac nid ydym yn rhagweld unrhyw amhariad pellach ar hyn o bryd.
"Rydym yn cynghori'n cwsmeriaid i gysylltu â'u cwmni awyrennau i weld beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2023