Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
tynyfron
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau'r ffordd brynhawn Sul yn sgil y digwyddiad

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Aberystwyth dros y penwythnos.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Penparcau ar gyrion y dref tua 14:30 brynhawn Sul.

Dywedodd y llu mai un cerbyd, fan Vauxhall Vivaro gwyn, oedd yn y gwrthdrawiad a bod menyw wedi marw o'i hanafiadau.

Mae swyddogion yn apelio am dystion a phobl all gynnig lluniau dashcam neu ddelweddau cloch drws.

Pynciau cysylltiedig