Dod i 'nabod y gŵr tu ôl i gyfrif Sketchy Welsh
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfrif Sketchy Welsh ar Instagram, dolen allanol yn rhannu darluniau lliwgar o eiriau ac ymadroddion Cymraeg, er mwyn ceisio helpu â dysgu'r iaith.
Yn ôl Joshua Morgan, roedd hi 'bron yn anochel' ei fod yn dechrau'r cyfrif, ag yntau'n ddarlunydd proffesiynol, ac wrthi'n dysgu Cymraeg. Felly dyma benderfynu cyfuno'r ddau beth, a chreu lluniau sydd am ei helpu yntau - ac eraill - gyda'r Gymraeg.
Pwy wyt ti?
Fy enw i yw Joshua Morgan. Ces i fy ngeni ym Mhen-y-bont ond symudais i pan o'n i'n eitha ifanc i Loegr felly collais i y cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Des i yn ôl i Gymru i ddysgu llenyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a dw i dal yn byw yng Nghaerdydd gyda fy nheulu nawr.
Dw i'n ddarlunydd proffesiynol, ond hefyd yn treulio eitha lot o amser yn gweithio mewn ysgolion yn gwneud gweithdai am ddarlunio ac ysgrifennu.
Ers pryd wyt ti'n dysgu Cymraeg a pham wnes di ddechrau?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg o ddifrif y llynedd pan ddechreuodd fy mab yn yr ysgol Gymraeg. Ers dw i wedi bod yn gweithio yn yr ysgol gynradd ro'n i'n wedi dysgu'r pethau syml am y tywydd a hobïau ond dim byd mwy na hynny.
Do'n i ddim yn gwybod tan symud i Eastern Cape, De Affrica am ychydig o flynyddoedd, bod dysgu iaith arall yn bosibl i fi. Dw i wedi dysgu a siarad isiXhosa draw fan'co i lefel dda o ruglder.
Ro'n i'n mwynhau dysgu yn fawr iawn ac wedi gweld bod yr iaith yn allwedd i agor rhan o'r diwylliant na fyddwn i wedi profi heb yr iaith. Dwi'n gweld mwy a mwy bod yr un sefyllfa gyda Chymraeg hefyd!
Erbyn hyn, rydw i wedi bod yn gwneud SaySomethingInWelsh ac yn gofyn llawer o gwestiynau i fy ffrind sy'n siarad Cymraeg. Mae fy ngwraig, sy'n dod o'r Midlands yn Lloegr, hefyd yn dysgu.
Pam wnes di ddechrau Sketchy Welsh?
Roedd dechrau Sketchy Welsh bron yn anochel dw i'n meddwl, oherwydd fy mod i'n ddarlunydd ac yn dysgu Cymraeg ar yr un pryd. Dechreuais i greu lluniau i helpu fi a fy nheulu ddysgu Cymraeg a gwneud y brawddegau mwy cofiadwy.
Wnes i'r llyfr 31 ways to Hoffi Coffi, ond nid ar gyfer unrhyw un arall i ddweud y gwir. Ro'n i'n synnu at yr ymateb mor positif a brwdfrydig o'r gymuned dysgu Gymraeg! Roedd y Kickstarter ar gyfer y llyfr yn llwyddiannus iawn a dw i mor falch bod y llyfr yn cael ei ddefnyddio gan gymaint o bobl nawr!
Prif nod Sketchy Welsh yw cadw ymlaen i greu adnoddau sydd yn hardd a buddiol i ddefnyddio. Dw i'n moyn parhau i'w creu yr holl ffordd drwodd hyd at ruglder.
Dw i ddim yn meddwl ei fod byth yn syniad da i ddysgu iaith o un lle, ond byddwn yn falch iawn pe gallai lluniau a llyfrau Sketchy Welsh fod yn un o'r ffyrdd gorau a mwyaf pleserus i ddysgu Cymraeg.
Beth sydd yn dy ysbrydoli di?
Fel arfer dw i'n dechrau gyda'r ymadroddion mwyaf defnyddiol i ddysgwyr fel fi. Er enghraifft, mae'r lluniau yn 31 ways to Hoffi Coffi yn rhyfedd iawn ond mae'r iaith yn gyffredin ac yn ddefnyddiol.
Pan fydd ymadrodd defnyddiol gyda fi, byddaf wedyn yn mwynhau meddwl am sefyllfa sy'n ei ddangos yn dda. Mae'n bwysig i fi bod y lluniau wedyn yn dod yn rhywbeth mwy nag adnodd dysgu ond hefyd yn dangos rhyw ran o stori neu dyfnder.
Hefyd, dw i'n wastad yn gweithio ar brosiect. Hoffi Coffi yn gyntaf, wedyn '10 ymadrodd defnyddiol ar gyfer dechrau Cymraeg', nawr dw i'n gweithio ar luniau ar gyfer pob rhan o Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.
Yn syndod, mae ychydig o bobl wedi dysgu hyn ac yna ar ôl dechrau dysgu Cymraeg. Welais i ddim lawer o bwynt yn ei ddysgu ond wedyn gwelais fod llawer o eiriau defnyddiol yn yr enw lle. Ro'n i'n meddwl dych chi'n gallu dysgu beth maen nhw'n ei olygu, a sut i ddefnyddio pob un mewn brawddeg, bydd y gair hyn yn rhoi llawer o Gymraeg defnyddiol i bobl.
Dw i nawr ar y rhan olaf: 'ogogoch' (red cave). Bydd llyfr a fideo a chân yn dod gyda hwn!
Wyt ti'n teimlo fod dy Gymraeg di wedi gwella o wneud hyn?
Yn bendant! Hyd yn oed esbonio brawddeg syml, i ddeall ymadrodd yn gyfan 'dych chi'n dysgu cymaint.
Yn bennaf, mae'r gefnogaeth i Sketchy Welsh wedi golygu fy mod yn cael cwrdd â mwy a mwy o ddysgwyr Cymraeg (yn blant ac oedolion) mewn eisteddfodau ac mewn ysgolion. Roeddwn i wrth fy modd yn cyfarfod pobl yn y sesiwn Sketchy Welsh yn Tafwyl eleni. Roedd yn teimlo'n wych i fod yn siarad Cymraeg y rhan fwyaf o'r dydd.
Beth ydi ymateb pobl eraill?
Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, am y llyfr, Instagram a Twitter, a llawer o eiriau caredig. Er gwell neu er gwaeth, dwi'n gwneud pethau dw i'n meddwl sy'n dda a ddim yn boblogaidd ond mae'n anhygoel bod pobl eraill yn mwynhau'r prosiect hefyd!
Ai pobl go iawn sydd yn y lluniau?!
Weithiau! Mae fy nhad a brawd wedi ymddangos cwpl o weithiau. Ro'n i'n tynnu llun rhai o bobl yn yr Eisteddfod hefyd!
Rwy'n hoffi ffotograffiaeth documentary. Os gall Sketchy Welsh fod yn rhywbeth rhwng Henri Cartier Bresson, Quentin Blake, a Sali Mali, fydda i'n hapus iawn.
Hefyd o ddiddordeb: