Y Gor-leuad Las yn awyr Cymru dros nos

  • Cyhoeddwyd

Weloch chi'r Gor-leuad Las yn awyr dywyll Cymru neithiwr?

Mae mis Awst eleni wedi bod yn fis arbennig i wylio'r lloer, gan fod dwy leuad lawn wedi bod.

Yr enw ar yr ail leuad lawn mewn mis, fel a gafwyd ar 30/31 Awst ydi Lleuad Las, ac mae'n ymddangos yn fawr ac yn orwych yn yr awyr ar noson glir.

Er yn noson gymylog mewn ardaloedd yng Nghymru neithiwr, un fu'n ddigon ffodus o'i gofnodi oedd Gwynfor Griffiths o Lanberis.

Ffynhonnell y llun, Gwynfor Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Gor-leuad las o Ddyffryn Peris ar 30 Awst

Enw llawn y rhyfeddod yma yw Gor-leuad Las.

Gor- oherwydd mai dyna pryd mae'r lleuad agosaf at y ddaear, a glas achos dyma ail leuad lawn y mis sy'n beth prin. Dyna darddiad yr ymadrodd Saesneg, once in a blue moon!

Bydd dwy leuad lawn mewn mis ddim yn digwydd eto tan 2037.

Ffynhonnell y llun, Gwynfor Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Lleuad las yn goleuo llyn Padarn o Ben Llyn

Ffynhonnell y llun, Rhys Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Un arall a welodd y Gor-leuad las oedd Rhys Tudur. Tynnnwyd y llun yma o Ffordd Cunedda, Rhuthun, Sir Ddinbych

Ffynhonnell y llun, Eirlys Edwards-Behi
Disgrifiad o’r llun,

Y lleuad lawn o Lanfairfechan am 01:40 ar 31 Awst. Diolch i Eirlys Edwards-Behi am y llun

'Gwawr y lleuad yn brofiad rhyfeddol'

Un sydd wedi hen arfer â thynnu lluniau o'r awyr dywyll a'i ryfeddodau yw'r ffotograffydd Dafydd Morgan o Dregaron.

Er i gymylau trwchus dros Dregaron ei rwystro rhag dal y Lleuad Las neithiwr, bu'n rhannu ei gyngor ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru fore Iau.

"Wnes i osod y larwm ar gyfer 01:30, o'n i wedi paratoi le o'n i am fynd," meddai.

"O'n i wedi ymweld â ble o'n i am fynd neithiwr hefyd, i sicrhau diogelwch ac ati a rhoi gwybod i'r cymdogion a pherchnogion tir.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Lleuad lawn a cherflun y Pererin yn Nhregaron, wedi'i dynnu gan Dafydd Morgan yn y gorffennol

"Rhan allweddol o dynnu lluniau o'r awyr dywyll yw sicrhau bod pobl yn gwybod ble y'ch chi, a ble y'ch chi'n mynd gyda golau coch ar eich pen.

"Y peth diwethaf mae perchnogion tai a chymdogion isie yw goleuadau yn fflachio ar eu llwybrau a'u caeau nhw.

"Yn anffodus daeth y cymylau trwchus, trwchus i mewn, ond dwi'n gweld bod nifer wedi bod yn llwyddiannus neithiwr ar draws Cymru a Phrydain a'r byd.

"Mae e yn brofiad rhyfeddol i weld gwawr y lleuad i ddechre, achos dy'n ni ddim yn meddwl am wawr y lleuad fel rhan bwysig o'r dydd.

"Mae gwawr yr haul yn bwysig i nifer, a'r machlud, ond mae gweld y lleuad yn dod dros y gorwel yn y pellter i fi yn rhywbeth rhyfeddol iawn.

"Mae'r gwaith paratoi yn haws erbyn hyn, mae na aps i gael fel PhotoPills. Mae dyn yn gallu gosod ble mae fe am sefyll er mwyn cael rhywbeth yn yr olygfa yn ogystal â'r lleuad a'r wybren."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Lleuad lawn a cherflun y Pererin yn Nhregaron, wedi'i dynnu gan Dafydd Morgan yn y gorffennol

Weloch chi'r gor-leuad las yn eich ardal chi? Anfonwch eich lluniau at cymrufyw@.bbc.co.uk.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig