Sandbach: Cyn-AS eisiau tynnu ei henw o ymchwil caethwasiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol wedi gofyn i academydd dynnu ei henw o waith ymchwil sy'n ei chysylltu hi â'r fasnach gaethweision, trwy un o'i chyn-deidiau.
Yn ei ymchwil mae'r bardd ac awdur, Malik Al Nasir, yn enwi Antoinette Sandbach fel disgynnydd i Samuel Sandbach - masnachwr o Lerpwl oedd â rhan mewn planhigfeydd siwgr yn India'r Gorllewin.
Roedd ystâd yng ngogledd Cymru ymhlith ei fusnesau niferus.
Mae Ms Sandbach, oedd yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru rhwng 2011 a 2015 ac yna'n AS yn San Steffan, yn dadlau nad yw er lles y cyhoedd i'w henwi fel disgynnydd.
'Hawl sylfaenol' i gyhoeddi
Dywedodd Ms Sandbach ei bod yn cefnogi gwaith ymchwil Mr Al Nasir, ond mae'n ei gyhuddo o roi sylw arbennig iddi hi, tra bod perthnasau eraill iddo hefyd yn fyw.
Mae Mr Al Nasir wedi bod yn ymchwilio i gysylltiadau ei deulu gyda'r fasnach gaethweision ers degawdau, ac mae wedi darganfod cysylltiad ei gyndeidiau gyda chwmni Sandbach Tinne.
Mae wedi parhau â'i ymchwil ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae ei waith wedi ennill parch rhyngwladol ynghyd â nifer o wobrau.
Mewn ymateb i gais Ms Sandbach i'w datgysylltu o'i waith ymchwil, dywedodd Mr Al Nasir: "Mae hwn yn hawl sylfaenol sydd dan fygythiad oherwydd y syniad y gall unrhyw un hawlio sensoriaeth os nad ydyn nhw'n hoffi beth sy'n cael ei ddarganfod, ar sail yr hyn maen nhw'n ei weld fel hawl i breifatrwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran coleg St Catherine, lle mae Mr Al Nasir yn gwneud ei ddoethuriaeth: "Mae St Catharine's wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn rhyddid barn ac i sicrhau fod pob un o'n myfyrwyr, yn cynnwys Malik Al Nasir, yn cael rhyddid i ddilyn eu diddordebau ysgolheigaidd."
Yn 2021 fe gyflwynodd Mr Al Nasir sgwrs fideo TEDx, yn disgrifio sut y bu'n hel achau ei deulu yn ôl i'r planhigfeydd siwgr yn Demerara - British Guiana bryd hynny, neu Guyana erbyn hyn.
Mae Mr Al Nasir yn enwi Antoinette Sandbach yn y fideo, a'i chysylltiad teuluol gyda Samuel Sandbach.
Busnes pellgyrhaeddol
Mewn ebyst i Brifysgol Caergrawnt yn gynharach eleni mae cyn-AS Eddisbury, Swydd Caer, yn pwysleisio nad yw'n cydymdeimlo â Samuel Sandbach, ac mae'n disgrifio caethwasiaeth fel rhywbeth arswydus. Ond mae'n dadlau bod ganddi'r hawl i gael ei hanghofio.
Roedd Samuel Sandbach yn fasnachwr caethweision, masnachwr yn India'r Gorllewin, a chyd-sylfaenydd y cwmni Sandbach Tinne & Co, yn Lerpwl, a oedd yn rhan o gasgliad rhyngwladol o gwmniau teuluol.
Mae ymchwil Mr Al Nasir yn datgelu maint y busnes, oedd yn cynnwys llongau, banciau, yswiriant, rheilffyrdd, distyllfeydd, a chaethwasiaeth.
Roedd gan ei gwmni fonopoli ar ran helaeth o'r fasnach siwgr Demerara yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, a chafodd iawndal am dros 600 o gaethweision ar ôl i'r fasnach honno gael ei diddymu gan Senedd Prydain o 1833 ymlaen.
Roedd ystâd Plasty Hafodunos ger Llangernyw hefyd yn rhan o bortffolio Samuel Sandbach.
Yn ôl Mr Al Nasir roedd yr ystâd 5,000 acer nid yn unig yn cynnwys y plasty a werthwyd yn y 1930au, ond hefyd ffermydd cyfagos, gyda bythynnod sydd bellach yn rhan o ystadau Antoinette Sandbach - Hafodunos Farms Limited.
Dywedodd Ms Sandbach wrth y BBC fod dros hanner yr ystâd wedi cael ei gwerthu yn y 1930au, a bod y tir sydd ym mherchnogaeth y teulu heddiw wedi cael ei ychwanegu a'i ddatblygu ganddynt ers yr 1960au.
Mae bythynnod ar diroedd cyfagos ar gael i'w rhentu fel llety gwyliau, ac mae gwybodaeth gan Dŷ'r Cwmnïau yn enwi Antoinette Sherratt nee Sandbach fel cyfarwyddwr Hafodunos Farms Limited.
Dywedodd y cyn-AS mai ei thad sefydlodd y cwmni yn y 1970au.
Bygwth camau cyfreithiol
Mewn ebyst at Brifysgol Caergrawnt mae Ms Sandbach yn cwestiynu cywirdeb rhai elfennau o ymchwil Mr Al Nasir, yn cynnwys yr honiad fod y teulu wedi gwneud eu harian i gyd drwy gaethwasiaeth.
Dywedodd hefyd nad oedd hi bellach yn byw ar dir yn gysylltiedig ag ystâd y teulu, ac mae cywiriad ysgrifenedig yn egluro hynny wedi cael ei ychwanegu i'r sgwrs TEDx ar wefan y brifysgol.
Yn y negeseuon mae'n disgrifio caethwasiaeth fel rhywbeth ffiaidd, ond mae hi hefyd fel pe bai'n awgrymu tebygrwydd rhwng triniaeth caethweision Affricanaidd a thriniaeth gwragedd tŷ o oes Fictoria.
Mewn un ebost mae'n ymddangos bod Ms Sandbach yn bygwth camau cyfreithiol, gan gyhuddo'r brifysgol o fethu diogelu ei hawl i breifatrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caergrawnt nad oeddynt yn gallu gwneud sylw ar faterion cyfreithiol cyfredol.
Ond dywedodd Mr Al Nasir wrth y BBC: "Mae'r bygythiad o gamau cyfreithiol yn tramgwyddo rhyddid academaidd, ac fel hanesydd mae'n hanfodol bod gennyf ryddid academaidd i ymchwilio hanes ac arddangos fy narganfyddiadau heb ofn na ffafriaeth."
Dywedodd fod ei ymchwil yn dangos sut y dioddefodd caethweision ar y pryd.
"Cafodd caethweision Affricanaidd Sandbach Tinne eu gweithio i farwolaeth ar eu planhigfeydd, ac mae cyfrif ohonynt ymhlith 'da byw' yn y cyfrifon ariannol. Pan oeddan nhw'n marw roedd eu gwerth fel asedau'n cael eu cyfrif fel 'colledion llwyr' (written off) o dan y 'cyfrif negro'.
"Mae'r broses yma o ddad-ddyneiddio pobl Affricanaidd gan Sandbach Tinne a masnachwyr caethweision eraill yn dal yn fyw heddiw."
Mae trafodaeth genedlaethol gynyddol ynghylch rôl hanesyddol Prydain yn y fasnach gaethwasiaeth, gyda galwadau i dalu iawndal.
Ychwanegodd Mr Al Nasir mai rhan o'r broses gyfiawnder i wneud iawn am rywbeth oedd "gallu deall y gwirionedd hanesyddol, ac i wneud hynny mae'n rhaid i ni fod yn rhydd i wneud ymchwil hanesyddol".
Mae barnwr ar ran y Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif fod arnai'r DU dros £18tn i wneud iawn am ei ran yn y fasnach gaethweision.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2023
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020