Caethwasiaeth yn 'rhan annatod o economi Cymru'

  • Cyhoeddwyd
PictonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yr obelisg i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin - perchennog caethweision, ac arwr milwrol yn ei gyfnod

Mae archwiliad ar ran Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o dros 200 o gerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd yng Nghymru sydd gyda chysylltiadau hanesyddol â chaethwasiaeth.

Daeth yr archwiliad i'r casgliad fod y fasnach mewn caethweision yn "rhan annatod o economi a chymdeithas Cymru".

Ym mis Gorffennaf, yn dilyn marwolaeth George Floyd a mis o weithredu gan fudiad Mae Bywydau Du o Bwys, gofynnodd y Prif Weinidog Mark Drakeford am gynnal yr archwiliad i fesur hyd a lled dylanwad hanesyddol y fasnach ar gerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd y wlad.

Fe wnaeth yr archwiliad nodi 209 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd sy'n coffáu pobl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chaethwasiaeth a'r fasnach mewn caethweision, neu a oedd yn gwrthwynebu diddymu caethwasiaeth. Roedd rhain yn cynnwys:

  • 13 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a gymrodd ran yn y fasnach mewn caethweision o Affrica

  • 56 o leoliadau neu henebion oedd yn coffáu pobl a oedd yn berchen ar blanhigfeydd neu fwyngloddiau oedd yn defnyddio caethweision - neu oedd wedi elwa'n uniongyrchol

  • 120 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobl oedd yn gwrthwynebu diddymu'r fasnach mewn caethweision

  • 20 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a gyhuddwyd o droseddau yn erbyn pobl Dduon, yn enwedig yn Affrica

Daeth yr archwiliad, dan arweiniad Gaynor Legall, i'r casgliad fod henebion sy'n coffáu pobl sy'n gysylltiedig â'r fasnach gaethwasiaeth yn aml yn cael eu dangos heb unrhyw ddehongliad cysylltiedig i fynd i'r afael â materion dadleuol.

Daeth yr ymchwiliad hefyd i'r casgliad mai ychydig iawn o bobl o dreftadaeth Ddu neu Asiaidd sy'n cael eu coffáu ledled Cymru, a bod hyn yn "dangos bod angen ystyried sut y dylem ddathlu'r cyfraniadau y mae pob rhan o'n cymuned wedi'u gwneud i'n gwlad".

Roedd yr archwiliad hefyd yn datgelu "agweddau cadarnhaol" ar hanes Cymru, gan dynnu sylw at enghreifftiau o goffáu ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth ledled Cymru; o gerflun Henry Richard yn Nhregaron, i enwau strydoedd ar ôl Samuel Romilly a neuaddau preswyl Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Angen 'dealltwriaeth glir'

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Er i farwolaeth drasig George Floyd ddigwydd bron i 4,000 milltir i ffwrdd, sbardunodd weithredu byd-eang a oedd yn taflu goleuni ar anghydraddoldeb hiliol yn ein cymdeithas heddiw.

"Mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n bodoli yng nghymdeithas Cymru hefyd a rhaid inni weithio tuag at Gymru sy'n fwy cyfartal. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae arnom angen dealltwriaeth glir o etifeddiaeth y fasnach gaethwasiaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'r archwiliad hwn yn darparu tystiolaeth bwysig sy'n ein helpu i sefydlu darlun gonest o'n hanes.

"Nid yw hyn yn ymwneud ag ailysgrifennu ein gorffennol nac enwi pobl a chodi cywilydd. Mae'n ymwneud â dysgu o ddigwyddiadau'r gorffennol. Mae'n gyfle inni sefydlu perthynas aeddfed â'n hanes a dod o hyd i dreftadaeth y gall pob un ohonom ei rhannu.

"Dyma gam cyntaf mewn darn llawer mwy o waith a fydd yn ystyried sut symudwn ni ymlaen gyda'r wybodaeth hon, wrth inni geisio anrhydeddu a dathlu ein cymunedau amrywiol."

Dywedodd Gaynor Legall, arweinydd y grŵp a arweiniodd yr archwiliad:

"Rwy'n hynod falch o'r darn o waith hwn, am ei fod yn rhoi disgrifiad trylwyr a ffeithiol iawn o ran Cymru yn y Fasnach mewn Caethweision, ac yn ehangu ein gwybodaeth am hanes Cymru. Gobeithio y bydd yn arwain at blant yn dysgu'r hanes cyflawn gyda'i holl ffaeleddau."