Canslo gemau rygbi er cof am Gymro fu farw yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Steffan ReesFfynhonnell y llun, Rygbi Llynges Frenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steffan Rees ei ganfod yn farw ar ddarn o arfordir yn Llydaw, Ffrainc

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth wedi canslo'u gemau'r penwythnos yma er cof am un o'i chwaraewyr.

Bu farw Steffan Rees yn Ffrainc ble'r oedd yn cynrychioli Prydain yng Nghwpan Rygbi'r Byd y Lluoedd Arfog.

Roedd Mr Rees, o Aberystwyth, yn forwr gyda'r Llynges Frenhinol.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ger yr arfordir yn Dinard, Llydaw, a'r gred yw ei fod wedi cwympo yn ddamweiniol, meddai'r awdurdodau.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Aberystwyth RFC

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Aberystwyth RFC

Mewn datganiad dywedodd Clwb Rygbi Aberystwyth bod cynrychioli Lluoedd Arfog Prydain yn "gamp aruthrol gan Steff ac un y mae ein clwb yn falch iawn ohono".

Ychwanegodd y clwb eu bod yn anfon eu "cydymdeimladau dwysaf i deulu Steff a ffrindiau agos. Mae ein meddyliau ni i gyd gyda chi ar yr amser trist hwn."

Ni fydd y clwb yn cynnal gemau dros y penwythnos er cof am Mr Rees.

Mae'r Llynges wedi dweud eu bod yn gweithio gydag awdurdodau Ffrainc wrth i'r ymchwiliad barhau.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau gyda'i deulu a'i ffrindiau," dywedodd y llynges mewn datganiad.

"Rydym yn parhau i gynorthwyo awdurdodau Ffrainc gyda'u hymholiadau ac felly ni allwn wneud unrhyw sylwadau pellach."