Dolgellau: Cludo dau i'r ysbyty wedi i do siop ddisgyn

  • Cyhoeddwyd
Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i siop Spar ar Stryd Plas yn Dre yn dilyn adroddiad bod rhan o'r to wedi syrthio i mewn i'r siop.

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Nolgellau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r dref toc cyn 13:00 brynhawn Sadwrn.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd fe gawson eu galw i siop Spar ar Stryd Plas yn Dre yn dilyn adroddiad bod rhan o'r to wedi syrthio fewn i'r siop.

Llwyddodd dau aelod o staff ac un aelod o'r cyhoedd i ddianc o'r eiddo, ond bu'n rhaid cloddio am un aelod o staff.

Bu i'r heddlu gau canol y dref gyda'r gwasanaethau tân ac ambiwlans hefyd yn bresennol.

Mewn diweddariad fe ddywedodd y llu fod archwiliad trylwyr wedi dangos nad oes unrhyw berson ar ôl yn yr adeilad erbyn hyn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi gadael y lleoliad gyda'r ffordd yn parhau i fod ar gau yn rhannol.

Ychwanegon nhw bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad ar y cyd â Chyngor Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cau canol y dref yn Nolgellau

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ffordd.

"Rydym wedi mynychu digwyddiad yn Nolgellau," medd llefarydd.

"Fe drosglwyddwyd un i'r ysbyty ym Mangor ac un i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth."

Pynciau cysylltiedig