Dathlu'r 'morfil' sy'n hedfan uwchben gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Beluga
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Beluga wedi bod yn cludo adenydd awyrennau Airbus o'r ffatri ym Mrychdyn ers bron i 30 mlynedd

Mae hi'n gyfarwydd iawn i nifer o bobl gogledd Cymru ac mae ganddi hi filoedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae noson arbennig y cael ei chynnal nos Fercher i ddilynwyr y Beluga gael dathlu 29 o flynyddoedd ers iddi ddechrau hedfan uwchben Sir y Fflint.

Awyren ydy'r Beluga, sy'n cludo adenydd awyrennau Airbus sy'n cael eu cynhyrchu yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn.

Mae hi wedi ei galw yn Beluga gan ei bod hi'n debyg iawn i fath arbennig o forfil. Oherwydd ei siâp unigryw mae ganddi 14,000 o ddilynwyr ar Facebook.

Stuart a Lynne Jones, cwpl priod o Saltney ger Caer, sy'n gyfrifol am y dudalen honno.

Disgrifiad o’r llun,

Lynne a Stuart Jones yn gwylio'r Beluga ym maes awyr Penarlâg

Ers 2019, boed law neu hindda, mae'r ddau wedi bod yn gwylio'r Beluga yn mynd a dod o faes awyr Penarlag ger ffatri Airbus a rhannu'r wybodaeth am ei phrysurdeb gyda'i dilynwyr.

Yn wahanol i awyrennau eraill, mae trwyn y Beluga yn agor er mwyn i'r adenydd gael eu gosod yn ei chrombil.

Mae'r adenydd yn cael eu cludo i ffatrioedd eraill Airbus ar hyd a lled Ewrop, ac mae ymweliadau yr awyren yn boblogaidd ar y cyfandir hefyd.

'Sŵn unigryw'

Mae Stuart Jones wedi gwirioni gyda'r awyren ers iddo symud i'r ardal.

"Mi fedra i eistedd yn fy ngardd a'i gweld yn hedfan yn syth dros fy mhen. Mae ganddi sŵn unigryw sy'n eich gorfodi i edrych i'r awyr," meddai.

"Pan rydyn ni yn y ganolfan siopa ym Mrychdyn mae pobl jyst yn stopio ac yn edrych i fyny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ardal benodol wedi ei chreu ger caffi Chocks Away ger y maes awyr ym Mhenarlâg i roi cyfle i bobl weld yr awyren yn esgyn a glanio

Mae Lynne, ei wraig, yn dweud eu bod yn cael negeseuon cyson gan bobl o bob cwr o'r Deyrnas Unedig sy'n awyddus i weld yr awyren.

"Mae 'na lawer yn gofyn pryd ydy'r adeg orau i ddod i weld y Beluga. Wythnos ddiwethaf mi gawson ni bobl o Fryste.

"Rydyn ni eisiau helpu cymaint ag y gallwn ni. Rydyn ni yn medru rhoi gwybod noson cynt os bydd yr awyren i'w gweld, ond mae hi'n dibynnu ar y tywydd wrth gwrs."

Mae yna ardal benodol wedi ei chreu ger caffi Chocks Away ger y maes awyr ym Mhenarlâg i roi cyfle i bobl weld yr awyren yn esgyn a glanio.

Diolch i'r gymuned

Mae Airbus wedi trefnu noson arbennig yn y Storyhouse yng Nghaer nos Fercher, ble bydd Jean-Pierre Cousserans, pennaeth cludiant Airbus, yn adrodd hanes y Beluga.

Dywedodd Paul Kilmister, pennaeth y gadwyn gyflenwi yn Airbus UK eu bod fel cwmni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned sydd wedi cefnogi'r Beluga ym Mrychdyn ers bron i dri degawd.

"Mi fyddwn ni'n dangos ffilmiau a lluniau sydd ddim wedi eu gweld yn gyhoeddus o'r blaen o sut gafodd yr awyren ei hadeiladu," meddai.

"Bydd holl elw'r noson yn mynd i'r Trussell Trust, sy'n rhedeg rhwydwaith o fanciau bwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd wyth adain yn cael eu llwytho i grombil y Beluga yn y dyfodol

Yn y dyfodol bydd y Beluga i'w gweld yn llai rheolaidd. Mae hynny oherwydd gwelliannau amgylcheddol yn ôl Paul Kilmister.

"Mae hi'n rhedeg ar fath arbennig o danwydd cynaliadwy sy'n helpu ein hymdrechion i ddadgarboneiddio'r awyr.

"Hefyd rydyn ni'n addasu y modd rydyn ni yn llwytho'r adenydd. Felly yn fuan bydd y Beluga yn gallu cludo wyth adain mewn un hediad yn hytrach na phedwar."

Bydd hynny yn golygu haneru teithiau'r Beluga, gan olygu y bydd llai o gyfle i weld y 'morfil' uwchben gogledd Cymru.

Pynciau cysylltiedig