Daeargryn Morroco: Profiad 'dychrynllyd' teulu o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Carina Lewis a'i theuluFfynhonnell y llun, Carina Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Tarodd y daeargryn nos Wener tra bod Carina Lewis a'i theulu ar wyliau yn Marrakesh

Mae nyrs dan hyfforddiant o Dreorci yn dweud ei bod wedi'i "dychryn yn fawr" pan darodd daeargryn, oedd yn mesur 6.8, ei gwesty yn Morocco neithiwr.

Dywedodd Carina Lewis, 42, eu bod wedi cael eu "gadael mewn limbo," a'u bod yn cysgu tu allan ar gadeiriau yn dilyn y daeargryn sydd wedi lladd mwy na 1,000 o bobl.

Mae Ms Lewis ar wyliau ym Marrakesh, tua 60km o ganolbwynt y daeargryn, gyda'i dau mab, ei merch a ffrind un o'i phlant.

"Roedden ni newydd gyrraedd yn ôl i'r gwesty, roedd e tua 22:30 neu 22:40 ac yn sydyn roedd yna sŵn tu allan, bron fel beic modur," dywedodd Ms Lewis.

"Peth nesa roedd popeth yn hedfan o gwmpas, roedd yr adeilad cyfan yn ysgwyd, roedd pethau'n hedfan o'r cownter. Roedd yna ddrws oedd fod ar glo a hedfanodd hwnna ar agor.

A woman surveys the damage to a building in Marrakesh, reduced almost entirely to rubbleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael eu lladd gan y daeargryn a darodd Morocco nos Wener

"Nes i gydio fy machgen allan o'r gwely a gafael yn y pasbortau ac aethon ni allan cyn gynted â phosib.

"Roedd pobl yn rhedeg ac yn sgrechian yn y coridor. Dywedon nhw, 'daeargryn yw e, ewch du allan!'"

Ychwanegodd: "Dywedon nhw gallwn ni fynd yn ôl i mewn [i'r gwesty]. Dywedon nhw fod y blociau yn strwythurol ddiogel. Ond mae yna graciau anferth yn y llawr, ac i fyny'r waliau.

"Aethon ni i mewn, ond yn ystafell fy mab roedd crac anferth ac mae'r balconïau wedi symud... gall e ddim fod yn ddiogel.

Crac yn y walFfynhonnell y llun, Carina Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carina Lewis fod craciau wedi ymddangos yn waliau'r gwesty

Mae Ms Lewis i fod hedfan yn ôl i Gymru ar ddydd Llun ond mae'n feirniadol o'r cwmni gwyliau Tui, gan honni nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw wybodaeth.

"Efallai bydd yn rhaid i ni aildrefnu i ddydd Sul... ni ddim yn gwybod."

Yn y cyfamser mae'r teulu yn eistedd tu allan ac yn disgwyl.

"Dwi erioed wedi teimlo daeargryn o'r blaen a dwi ddim eisiau teimlo un eto," dywedodd Ms Lewis.