Rhybudd am fellt a chenllysg i rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd melyn a melltFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mewn chwe sir ddydd Sul

Mae rhybudd y gallai stormydd effeithio ardaloedd yn y gogledd a'r canolbarth ddydd Sul.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn rhwng 12:40 a 23:59 ddydd Sul.

Mae'n bosib y bydd rhai ardaloedd y gweld hyd at 70mm o law o fewn ychydig oriau, ynghyd â "mellt cyson a chenllysg mawr."

Dydd Sul fydd y seithfed diwrnod yn olynol y mae disgwyl i dymereddau fod yn uwch na 30C.

Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i ardaloedd yn siroedd Ynys Môn, Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig