Dargyfeirio'r Tour of Britain ar ôl gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Tour of BritainFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau gymal o'r Tour of Britain wedi cael eu cynnal yng Nghymru

Cafodd cymal olaf y Tour of Britain ei ddargyfeirio ddydd Sul yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhreorci nad oedd yn gysylltiedig â'r ras.

Roedd y cystadleuwyr yn seiclo o Barc Margam i Gaerffili pan fu'n rhaid i'r trefnwyr niwtraleiddio'r ras o ganlyniad i'r digwyddiad.

Mae'n golygu nad oedd modd cwblhau rhan o'r cymal, gyda'r seiclwyr yn teithio i bwynt arall lle bydd modd ailddechrau'r ras.

Carlos Rodriguez o dîm Ineos Grenadiers enillodd y cymal, tra mai Wout van Aert o Wlad Belg, sy'n cynrychioli Team Jumbo-Visma, enillodd y ras yn ei chyfanrwydd.

Dywedodd yr heddlu y bu'n rhaid cau'r ffordd yn Nhreorci wedi i feiciwr modur daro bolard a chwympo i afon tua 11:30 fore Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod un person wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mewn datganiad dywedodd trefnwyr y ras: "Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."

Pynciau cysylltiedig