Rhybudd melyn am law trwm yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
TywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd melyn wedi'i gyhoeddi ar gyfer siroedd y Fflint a Wrecsam ddydd Mawrth

Mae rhybudd y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhai mannau yng Nghymru ddydd Mawrth.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn rhwng 00:00 a 12:00.

Mewn rhai ardaloedd mae'n bosib y bydd hyd at 40 i 50mm o law yn disgyn .

Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i siroedd y Fflint a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig