Pryder am gynllun dadleuol i adleoli canolfan ddibyniaeth
- Cyhoeddwyd
![Protest nos Lun 11 Medi 2023](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5EDF/production/_131078242_922b2641-84fe-4743-9ac4-ed3f6bb13978.jpg)
Roedd yna brotest yn erbyn lleoliad y ganolfan lesiant newydd yn Llanelli nos Lun
Mae pwyllgor cynllunio Sir Gâr wedi penderfynu cynnal ymweliad â safle yn Noc y Gogledd yn Llanelli cyn ystyried cynlluniau dadleuol i adleoli gwasanaeth i drin dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yno.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno cais i sefydlu "Canolfan Llesiant" yn swyddfeydd Dragon 24, sy'n cynnwys adleoli Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed (DDAS) o Stryd Vaughan yng nghanol y dref i'r adeilad.
Mae dros 200 o bobl wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ar-lein i'r cais, gydag un cynghorydd yn ei ddisgrifio fel "cynllun peryglus" oherwydd bod yr adeilad yn agos i'r Doc ac Afon Lliedi.
Yn ôl y bwrdd iechyd fe fydd y ganolfan yn "newid bywydau" yn Llanelli.
Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio bleidleisio ddydd Iau o blaid cynnal ymweliad â'r safle, gyda'r penderfyniad i'w wneud yn y dyfodol.
![Safle arfaethedig y ganolfan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/ACFF/production/_131078244_1380c677-a2fc-4a9f-b977-850c0e0a981a.jpg)
Mae'n fwriad i sefydlu'r ganolfan yn hen swyddfeydd cwmni WRW
Fe fydd y ganolfan llesiant newydd yn cynnig cymorth i bobl roi'r gorau i ysmygu, cyngor ar iechyd a gwasanaeth ymyrraeth gynnar i bobl ifanc.
Bydd hyd at 51 o bobl yn gweithio yn y ganolfan, fydd wedi ei lleoli yn hen swyddfeydd cwmni WRW.
Fe fydd ar agor rhwng 09:00 a 17:00 yn ystod yr wythnos a rhwng 09:00 a 14:00 ar benwythnosau, yn dibynnu ar y galw.
Bydd apwyntiadau gyda'r nos i bobl sydd methu mynychu sesiynau yn ystod y dydd.
Mae Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed yn rhoi cymorth i bobl sydd â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, ynghyd â'u ffrindiau a theuluoedd.
Mae'n rhoi "gofal adferol" er mwyn "lleihau dibyniaeth" ar alcohol a chyffuriau.
'Lleoliad gwaethaf posib'
Fe wnaeth rhyw 70 o bobl gynnal protest dawel tu allan i'r ganolfan arfaethedig nos Lun, dan arweiniad dau gynghorydd sir lleol.
![Sean Rees a Louvain Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11BEF/production/_131078627_1f392639-6721-407e-8d1c-50588ce6b147.jpg)
Y cynghorwyr Sean Rees a Louvain Roberts fu'n arwain y brotest
"Mae 'da ni bryderon mawr am iechyd a diogelwch," meddai'r Cynghorydd Sean Rees.
"Mae yna alw am y gwasanaeth ond mae'r lleoliad yn allweddol. Dyma'r lleoliad gwaetha' posib.
"Ry'n ni yn galw ar y Bwrdd Cynllunio lleol i ailfeddwl. Ry'n ni wedi gofyn a oes asesiad risg wedi ei gwblhau, ond mae cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi datgelu nad yw hyn wedi digwydd.
"Mae yna barc chwarae yma a gweithgareddau ar y dŵr. Dyw nhw ddim wedi ystyried hynny. Mae safleoedd eraill wedi cael eu cynnig ond dyw nhw ddim wedi eu hystyried."
'Allen nhw syrthio i'r dŵr'
Dywedodd y Cynghorydd Louvain Roberts: "Ry'n ni yn deall bod angen gwasanaeth ond mae pobl leol yn bryderus. Fe fydd hyn yn symud y broblem o un ardal i un arall.
"Mae yna ddŵr yn agos iawn at y safle, ar y ddwy ochr. Mi allai hynny fod yn beryglus.
"Mae dŵr yn y Doc ac yn yr afon. Mi allen nhw syrthio i'r dŵr."
![John Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16A0F/production/_131078629_dc9c3e8a-1abc-486b-941d-93083809f96e.jpg)
Mae John Jones yn bryderus iawn ynghylch y sefyllfa
Ym marn John Jones, sy'n byw yn lleol "mae digon o broblemau gyda ni yn barod heb gael ragor i'r North Dock man hyn".
"So ni mo'yn rhagor o broblemau. Bydd rhai sydd ar gyffuriau yn y Doc - byddan nhw yn boddi. Beth chi'n neud - gadael iddyn nhw foddi?
"Mae'n mynd i fwrw popeth. Fi'n poeni, mae'n rhaid i fi ddweud y gwir."
![Yr adeilad ar bwys y doc](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3577/production/_131078631_c4110b36-6a03-47ca-b034-85ffbd9efd12.jpg)
Mae'r hen swyddfeydd ar bwys y doc a'r afon
Mae adroddiad cynllunio'r cyngor yn nodi bod Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi'r cais, ac "nad oes problemau gwrthgymdeithasol a throsedd" yn yr ardal.
Yn ôl yr adroddiad, dyw'r heddlu ddim yn rhagweld y bydd yna "gynnydd yn yr angen am blismona yn yr ardal".
Mae'r swyddogion cynllunio yn nodi hefyd y bydd y gwasanaeth yn gweithredu "yn ôl apwyntiad yn unig" ac y bydd camerâu yn cael eu gosod tu allan i'r adeilad.
Mae pryderon am agosatrwydd y ganolfan i'r Doc a'r afon hefyd yn "ddi-sail". Yn ôl y cyngor "does dim rheidrwydd statudol" i gwblhau asesiad risg.
Mae swyddogion yn argymell bod aelodau'r pwyllgor yn caniatáu'r cais.
'Newid bywydau'
Dywedodd Joanna Dainton o Fwrdd Iechyd Hywel Dda: "Ry'n ni'n gwybod bod ysmygu, camddefnyddio alcohol, maeth gwael, lefelau isel o weithgarwch corfforol a chamddefnyddio sylweddau yn cyfrannu at y prif achosion o afiechydon y gellir eu hatal a marwolaethau cynnar yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion."
Ychwanegodd fod y ganolfan "wedi'i chynllunio i fod o fudd i bob aelod o gymdeithas, o blant a phobl ifanc i aelodau hynaf ein cymunedau.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu gwasanaethau a chymorth a fydd yn helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, gwneud dewisiadau bwyd iachach, bod yn fwy egnïol yn gorfforol, yn ogystal â mynd i'r afael ag yfed a chamddefnyddio cyffuriau.
"Byddai'r manteision i Lanelli yn llythrennol yn newid bywydau."
Mae Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed wedi cael cais am ymateb.