Elen, mam Owain Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Ddiwrnod Owain Glyndŵr Ddydd Sadwrn 16 Medi, mae gŵyl go wahanol yn cael ei chynnal yn nhref Llandysul sydd yn dathlu, nid y Mab Darogan ei hun, ond yn hytrach, ei fam, Elen.
Yr hanesydd Dr Rhun Emlyn, sydd wedi ceisio rhoi'r darnau bach o wybodaeth sydd gennym am Elen at ei gilydd, er mwyn ceisio cael darlun cyflawn ohoni.
Mi fyddwch chi wedi clywed am Owain Glyndŵr a'i wrthryfel, ond faint ydych chi'n wybod am ei fam? Dim llawer siwr o fod!
Bwriad Ffair Elen yn Llandysul y penwythnos yma yw codi ymwybyddiaeth am Elen, mam Glyndŵr, a dathlu ei hanes a'i chysylltiad â'r ardal.
Gan bod Elen yn perthyn i gyfnod pan roddwyd llawer mwy o sylw i ddynion does gennym ddim llawer o fanylion am sut berson oedd hi mewn gwirionedd, ond dyma bump ffaith amdani.
1. Cynrychiolydd olaf teulu brenhinol y Deheubarth
Roedd Elen yn perthyn i deulu brenhinol oedd wedi wedi rheoli dros rannau helaeth o'r de (ac weithiau tu hwnt) ers canrifoedd. Ymysg ei chyndeidiau roedd Hywel Dda, adawodd ei enw a'i ddylanwad ar gyfraith Cymru, Rhys ap Tewdwr, a ddaliodd llif y Normaniaid yn ôl, a'r Arglwydd Rhys, sefydlydd yr eisteddfod cyntaf.
Llwyddodd Llywelyn, taid Elen, i oroesi Concwest Cymru ym 1282. Ganwyd Elen tua 1330 ac erbyn 1360 dim ond hi, a'i chwaer Margred, oedd ar ôl o'r teulu. Allai neb arall yn y de hawlio tras mor frenhinol!
2. Etifedd tir yn ne Ceredigion
Meibion oedd fel arfer yn etifeddu tir yn y cyfnod, ond ar farwolaeth ei brawd Owain heb blant etifeddodd Elen arglwyddiaeth yng ngodre Ceredigion ar y cyd gyda'i chwaer. Roedd yr arglwyddiaeth hon yn cynnwys yr ardal o Landysul yn y dwyrain at Genarth yn y gorllewin.
Yn ei dro fe etifeddwyd tir Elen gan ei mab, Owain Glyndŵr. Oherwydd arwyddocâd Elen i'r ardal cafodd Gwrthryfel Glyndŵr gefnogaeth gynnar yma, gan gyfrannu at fomentwm a dylanwad y gwrthryfel.
3. Hanner 'power couple' Cymru'r bedwaredd ganrif ar ddeg
Priododd Elen â Gruffudd Fychan o Lyndyfrdwy a Sycharth. Gruffudd oedd disgynnydd pwysicaf teulu brenhinol Powys. Trwy briodi roeddent yn uno dau o'r teuluoedd oedd wedi bod yn rheoli'r wlad cyn y goncwest.
Ganwyd pump o blant i Elen a Gruffudd: Owain, Isabel, Tudur, Lowri a Morfudd. Gallai'r plant hyn frolio'r tras mwyaf aruchel yng Nghymru. Oherwydd ei ddau riant y llwyddodd Owain Glyndŵr i hawlio'r teitl 'Tywysog Cymru'.
4. Goroeswr cyfres o drychinebau
Roedd bywyd yn yr Oesoedd Canol yn gallu bod yn anodd ond roedd Elen yn byw trwy gyfnod arbennig o heriol. Mae haneswyr yn galw cyfnod Elen yn 'Ganrif o Argyfyngau'. Roedd yr hinsawdd yn newid (hafau gwlypach, gaeafau hirach ac oerach) gan arwain at gyfnodau o newyn erchyll. Buasai newyn ddim wedi effeithio arni hi yn uniongyrchol gan ei bod yn berson breintiedig, ond buasai wedi gweld pobl yn dioddef o'i chwmpas ac mae'n bosib y buasai ganddi gonsyrn a gofal dros y gwerinwyr oedd yn byw ar ei thir.
Yna, cyrhaeddod y Pla Du Gymru ym 1348 gan ysgubo trwy'r wlad dros y flwyddyn ddilynol. Roedd y pandemig yma'n taro'r cyfoethog a'r tlawd fel ei gilydd, gan ladd tua traean o'r boblogaeth. Roedd Elen yn ferch ifanc yn ystod y blynyddoedd brawychus hyn, ac mae'n sicr i sawl un oedd yn ei hadnabod farw ohono. Dychwelodd y pla sawl gwaith yn ystod ei bywyd, gan gynnwys 'Marwolaeth y Plant' ym 1361 pan oedd Owain a phlant eraill Elen yn ifanc iawn. Gallwn ni ond dychmygu ei hymateb i'r fath yma o fygythiad i'w phlant.
Ar ben hyn i gyd roedd ecsbloetio economaidd gan arglwyddi Seisnig yng Nghymru a thensiwn mawr yn wyneb statws israddol y Cymry. Gyda'r holl gythrwfl yn dilyn concwest, dim syndod bod cymaint yn dymuno gwrthryfela.
5. Matriarch teulu o wrthryfelwyr
Bu farw Gruffudd pan oedd y plant yn ifanc, gan adael Elen i'w magu. Faint o weithgarwch diweddarach ei phlant oedd o ganlyniad i ddylanwad Elen arnynt yn gynnar yn eu bywydau?
Credai Owain Glyndŵr yn gryf yn y proffwydoliaethau am arwr a fuasai'n arwain y Cymry at eu hannibyniaeth, gan arwain at ei wrthryfel. Nid Owain oedd unig aelod o deulu Elen i wrthryfela - ymunodd ei mab arall Tudur a meibion a gwŷr ei merched â'r gwrthryfel. Mae'n rhaid eu bod yn teimlo teyrngarwch teuluol at Owain, ond tybed oedd ôl magwraeth Elen arnynt hefyd?
Wrth i ni gofio am Owain Glyndŵr, beth am i ni hefyd gofio am bwysigwydd a dylanwad ei fam. Dewch i'w dathlu hi gyda ni yn Llandysul!
Hefyd o ddiddordeb: