Bron i fis o law yn bosib mewn mannau o Gymru ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Map y rhybydd tywyddFfynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Map y rhybudd melyn ar gyfer dydd Sul 17 Medi

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai bron i fis o law syrthio yng nghanolbarth a de Cymru cyn diwedd y dydd.

Roedd rhybudd melyn am storm o daranau mewn grym o 03:00 fore Sul - rai oriau'n gynt na'r darogan yn wreiddiol - tan 18:00.

Dywed yr arbenigwyr bod yna "bosibilrwydd bach" y gallai'r cenllif o law, sydd hefyd i'w ddisgwyl yn ne orllewin Lloegr, achosi llifogydd gan beryglu bywydau.

Roedd pryder gall hyd at 70mm o law syrthio o fewn ychydig oriau mewn rhai mannau. 92.45mm o law yw'r cyfartaledd yn y rhanbarth yn ystod mis Medi.

Roedd y rhybudd yn berthnasol i rannau o siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Gall amodau o'r fath achosi trafferthion i deithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Pynciau cysylltiedig