Tai heb drydan a chau ffyrdd yn sgil y tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Mae Afon Lliw ger Llanuwchllyn eisoes yn gorlifo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Lliw ger Llanuwchllyn eisoes yn gorlifo

Mae 854 o adeiladau yn ne a gorllewin Cymru heb drydan wedi glaw trwm a thywydd garw.

Mae gwyntoedd cryfion hefyd yn golygu bod cyfyngiadau mewn grym ar Bont Hafren a Phont Britannia dros y Fenai.

Yn Aberdaron roedd cyflymder y gwynt yn 68mya am 10:00 fore Mawrth.

Mae rhybudd y gallai glaw trwm pellach achosi llifogydd mewn mannau ar draws Cymru, gyda rhai afonydd eisoes yn gorlifo.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn rhwng 06:00 ddydd Mawrth a 18:00 ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd

Dywed Cyngor Sir Ynys Môn fod coeden wedi disgyn ym Mhorthaethwy a bod rhan o'r A545 ar gau o ganlyniad. Nid oes modd cael gwared â'r goeden tra bod y tywydd garw yn parhau ac mae disgwyl i'r ffordd barhau ar gau tan brynhawn ddydd Mercher.

Cafodd gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog eu gohirio a gwasanaethau fferi Stena Line rhwng Abergwaun a Rosslare.

Adroddodd SP Energy Networks am doriadau i gyflenwad trydan yn Harlech yng Ngwynedd ac ym Modorgan a Chaergybi ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffordd yr A494 rhwng Y Bala a Glan-yr-afon ei chau wedi i lori droi drosodd ond nid oedd unrhyw adroddiadau o anafiadau

Bydd hyd at 50-100mm o law yn debygol o ddisgyn ledled Cymru, gyda'r posibilrwydd o 150-200mm mewn rhai llefydd, medd y Swyddfa Dywydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd mewn nifer o ardaloedd sef yn nalgylchoedd afonydd Dysynni, Dyfi, Teifi Uchaf, Conwy, Mawddach, Wnion, Glaslyn a Dwyryd.

Yn Sain Fflwrens, Sir Benfro mae 247 o adeiladau heb drydan, gyda 246 yn Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin a 222 yn Abercannaid, ger Merthyr Tudful yn yr un sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Dŵr ar yr A494 ger Llanuwchllyn, Gwynedd ddydd Mawrth

Pynciau cysylltiedig