Canfod corff dyn 22 oed ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ger pier Bangor dros y penwythnos.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod corff y dyn 22 oed wedi ei ddarganfod toc wedi 07:00 fore Sul.
Yn ôl plismyn mae teulu'r dyn a'r crwner wedi'u hysbysu ac maent yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Yn anffodus, fe dderbynion ni adroddiad bod corff wedi'i ddarganfod fore ddoe [Sul].
"Rydym nawr yn gweithio i ddeall mwy am symudiadau olaf y dyn.
"Apeliwn ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal neu sydd â lluniau camera cerbyd rhwng Ffordd Caergybi, Bangor a Phorthaethwy o 02:00 i 05:00 fore Sul i gysylltu â ni."