Codwr pwysau wedi marw gyda bar 60kg ar ei wddf

  • Cyhoeddwyd
Llys crwner RhuthunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd cwest i farwolaeth Carl Hughes yn Rhuthun ddydd Llun

Bu farw codwr pwysau 61 oed ar ôl i far 60kg ddisgyn ar ei wddf yn ei gartref yn Sir Conwy.

Clywodd cwest ddydd Llun y cafodd Carl Hughes ei ganfod yn farw ar fainc yn ei ystafell wely, gyda'r bar yr oedd yn ei godi ar ei wddf.

Aeth cymydog Mr Hughes i chwilio amdano yn ei fflat ar Ffordd Rhos, Llandrillo-yn-Rhos ar ôl sylwi nad oedd y cyn-drydanwr wedi casglu ei bapur newydd ar 9 Medi.

Pan ddaeth Gill Embleton ac un arall o hyd i Mr Hughes, roedd rigor mortis eisoes yn effeithio ar ei gorff, clywodd y gwrandawiad.

Fe gafodd asffycsia ei roi fel rheswm dros dro i'w farwolaeth, ond mae disgwyl canlyniadau profion tocsicoleg pellach.

Fe wnaeth yr uwch grwner John Gittins ohirio'r cwest yn dilyn yr agoriad yn Rhuthun.

Pynciau cysylltiedig