Papurau bro: 'Angen syniadau a gwaed newydd'
- Cyhoeddwyd
Mae un o bapurau bro Cymru yn galw am ragor o wirfoddolwyr ifanc wrth i rai ystyried dyfodol digidol.
Heno mi fydd cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth i drafod dyfodol papur bro'r cylch, Yr Angor.
Yn ôl un o'r gwirfoddolwyr sy'n cynhyrchu'r papur, dywedodd ei bod yn "dalcen caled" denu aelodau newydd ar adegau.
Daw wrth i un sy'n gyfrifol am newyddiaduraeth gymunedol Bro360 ddweud bod deunydd digidol yn hollbwysig wrth edrych at y dyfodol.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Megan Jones Roberts, cadeirydd pwyllgor Yr Angor ei bod yn gobeithio gweld rhagor o bobl ifanc yn ymuno â thîm gwirfoddoli'r papur.
"Ma' rhai o'r gwirfoddolwyr sydd gyda ni yn mynd braidd yn hŷn a ma' nhw eisiau gweld bod gwaed newydd yn dod mewn i'r papur," dywedodd.
"Mae yn dalcen caled ond fi'n siŵr mewn tre' fel Aberystwyth fe gewn ni bobl heno gyda syniadau newydd falle."
Wrth edrych tuag at y dyfodol mae Ms Jones yn gweld gwerth i ddeunydd ar-lein ond teimla bod llawer o bobl yn dal i werthfawrogi cael papur print.
"Ma' 'na dal alw mawr i gael e mewn papur," meddai. "Ma' rhai pobl yn casglu'r papurau bro 'ma o fis i fis a dwi'n gwybod am sawl un sydd wedi cadw nhw ers y cychwyn.
"Ond dwi'n gweld hefyd yn enwedig gyda phobl ifanc, dy' nhw ddim yn darllen papur caled a ma' well 'da nhw weld pethe ar-lein."
'Denu cynulleidfa newydd'
Yn ôl pennaeth datblygu cwmni Golwg sy'n gyfrifol am Bro360 - rhwydwaith ar-lein sy'n casglu straeon papurau bro at ei gilydd - bydd presenoldeb digidol yn hollbwysig yn y dyfodol.
"Mae 'na hanes arbennig o dda gyda'r papurau bro," meddai Lowri Jones.
"[Roedd] dros hanner cant o' nhw di cael eu creu ar draws Cymru ers o gwmpas yr 70au a'r 80au, a gymaint o rheina'n dal i fynd o nerth i nerth ac yn rhoi gwasanaeth pwysig iawn, iawn yn lleol o ran rhannu straeon a rhoi cyfle i bobl ddefnyddio'u Cymraeg."
"Mae'n gyfrwng ar gyfer ategu rhyw deimlad o berthyn yn lleol felly ma' na'n sicr lot o bwysigrwydd o hyd i'r papurau bro.
"Fi'n credu bydd 'na bobl fydd wastad eisiau papur bro mewn print ond hefyd ma' byd print yn gyffredinol yn gostwng a ma' 'na gynulleidfa newydd i gael am straeon lleol ar-lein."
Ychwanegodd y byddai'n "werthfawr" i bapurau bro ystyried opsiynau digidol ar gyfer y dyfodol.
"Ma' 'na ardaloedd sydd wedi gweld lot o fantais mewn cydweithio rhwng papur a gwefan fro... Mae angen y print ar gyfer cynnal un gynulleidfa ac mae angen y cyfrwng digidol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd hefyd.
"Ma' 'na bobl ifanc sy'n meddwl falle bod nhw ishe bod yn newyddiadurwyr ac mae'n gyfle ffantastig iddyn nhw, y gwefannau a'r papurau bro, i arbrofi a ma' 'da ni cwpl o bobl ifanc sy'n gwneud yn dda iawn gyda'r papurau bro ac sydd wedi mentro a'n cael real hwyl arni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023