Papurau bro: 'Mor bwysig cael cyfraniad pobl ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Y DinesyddFfynhonnell y llun, Y Dinesydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Y Dinesydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 ym mis Ebrill 2023

Ar drothwy ei ben-blwydd yn 50 mae papur bro hynaf Cymru yn apelio am gymorth pobl ifanc ac am ddarllenwyr iau.

Mae nifer y rhai sy'n prynu Y Dinesydd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawd diwethaf - o tua 750 i 450 y mis ers tua 2010.

Dywed Gwilym Dafydd, y swyddog tanysgrifiadau, mai dim ond y to hŷn, i bob pwrpas, sy'n prynu papur bro ardal Caerdydd bellach.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Ry'n ni angen pobl ifancach ar y pwyllgor ac ry'n ni angen darllenwyr ifanc. Mae gennym rai cyfranwyr iau ond ry'n ni angen mwy.

"Mae yna dipyn llai yn prynu'r Dinesydd bellach - boed ar-lein neu fel copi caled.

"Mae'r siopau yn gwerthu llai ers Covid a'r unig danysgrifwyr newydd yw dysgwyr - er bod hynny, wrth gwrs, yn galonogol.

"Mae perchnogion siopau yn dweud nad oes neb o dan 55 yn ei brynu ac mae nifer o'r rhai sy'n tanysgrifio dros 90.

"Ry'n ni wir angen mwy o gyfranwyr iau ar gyfer ei barhad - a mwy o ddeunydd gan ysgolion. Mae llai o ysgolion yn anfon eu newyddion atom ers y pandemig.

"Mae'r capeli yn ein cynnal i raddau helaeth - o ran newyddion a dosbarthu - a mae gostyngiad y rhai sy'n mynychu eglwysi yn cael effaith ar y papur bro."

'Wrth fy modd yn cyfrannu'

Yn Llanbedr Pont Steffan mae Ifan Meredith, 17, newydd ennill gwobr gohebydd mwyaf addawol Bro 360.

Mae'n cyfrannu'n helaeth i bapur bro Clonc ac i wefan Clonc360.

Disgrifiad,

Mae Ifan Meredith, 17, yn cyfrannu'n gyson i bapur bro Clonc a gwefan Clonc360

"Dwi wrth fy modd. Dwi wedi ysgrifennu degau o erthyglau ac yn eu haddasu nhw i'r wefan ond dwi hefyd yn helpu i blygu Clonc.

"Fe fyddai i a'n ffrind yn mynd heno nawr - ac mae'n noson o gymdeithasu a dod i 'nabod y gymuned.

"Fi wrth fy modd yn ysgrifennu ac yn ystod y cyfle clo 'nes i benderfynu mai newyddiadurwr ro'n i am fod.

"Fe 'nes i sgwennu erthygl ar fy ewythr Dyfed Thomas sy'n gweithio i Iechyd Cyhoeddus Waikato yn Seland Newydd gan ei holi sut o'dd e'n llwyddo i daclo Covid yno - ac yna roedd gan gyfryngau eraill yng Nghymru ddiddordeb yn y stori.

"Ers 'ny fi wedi penderfynu bo' fi mo'yn bod yn newyddiadurwr ac mae papur bro yn lle da i fagu profiad."

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map sy'n dangos lle mae papurau bro Cymru

Mae 53 o bapurau bro yng Nghymru - y Dinesydd yw'r hynaf ac fe gafodd Llygad y Dydd, papur bro Dolgellau a'r cylch ei sefydlu mor ddiweddar â 2018.

Mae pob papur bro yn cael grant gan Lywodraeth Cymru gyda Mentrau Iaith Cymru yn gweinyddu'r grant ac yn ceisio gweld y ffordd orau i gefnogi papurau bro.

Ffynhonnell y llun, Llygad y Dydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llygad y Dydd, papur bro Dolgellau a'r cylch, ei sefydlu yn 2018

Mae Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru, ar hyn o bryd yn paratoi fideo ar gyfer swyddogion papurau bro ac fe fydd yna sylw arbennig i bwysigrwydd cyfraniad pobl iau.

"Mae cyfraniad pobl iau mor bwysig - ac wrth iau dwi ddim yn golygu dim ond pobl ifanc iawn - dwi'n sôn am bobl hefyd sy'n eu 30au, 40au a hŷn.

"Mae gwerthiant nifer o bapurau bro yn parhau i fod yn uchel - yn rhannau o Wynedd, er enghraifft, mae dros 1,000 a mwy yn cael eu gwerthu o bapurau gwahanol ardaloedd ond mae rhai ardaloedd ar ochr ddwyreiniol Cymru yn ei chael hi'n llawer iawn yn fwy anodd.

"Yr hyn sy'n rhyfeddol yw bod rhai o sefydlwyr gwreiddiol rhai o'r papurau dal wrthi - ac mae bron yn amhosib trosglwyddo'r awenau.

"Yn sicr ry'n ni'n cytuno â swyddogion Y Dinesydd bod cyfraniad a denu pobl ifanc mor bwysig - fe allai hynny fod yn ysgrifennu, tynnu lluniau, helpu gyda'r argraffu neu blygu neu ddosbarthu. Mae pob cyfraniad yn bwysig."

Un arall sy'n pwysleisio pwysigrwydd denu gwaed iau yw Aled Ellis, cadeirydd papur bro Yr Wylan - papur bro Penrhyndeudraeth, Porthmadog, Beddgelert a'r cylch.

"Ry'n ni yn reit ffodus i ddweud y gwir gan fod yna rywun sy'n ei 40au, ac un arall yn ei 50au ymhlith y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith o olygu.

"Mae mor bwysig yn tydi cael y genhedlaeth iau - mae eu hagweddau yn wahanol ac mae ganddyn nhw syniadau newydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Papur Bro Yr Wylan 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Papur Bro Yr Wylan 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

"Dyw'r clo ddim wedi gwneud gwahaniaeth mawr - fe wnaethon ni argraffu yn ddigidol yn ystod y cyfnod cloi mawr ac yna ailgychwyn ar raddfa fechan.

"Mae'r cymdeithasau wedi ailgydio eto rŵan ac mae 'na ddigon o ddeunydd. Fyddwn ni fel arfer yn anelu at rifyn 20 tudalen - os yn fwy na hynny mae'r pris yn codi wrth gwrs.

"Ond mae'n bwysig denu cynulleidfa. Fe fyddwn yn ceisio cynnwys newyddion pob ysgol yn y dalgylch a hysbysebu'r papur ar y cyfryngau cymdeithasol."

Ym mis Mawrth fe fydd Mentrau Iaith Cymru yn cynnal cynhadledd i gynrychiolwyr papurau bro.

"Yn sicr bydd sut mae cael pobl iau i ymgymryd ag unrhyw agwedd o waith papur bro yn cael cryn sylw," meddai Heledd ap Gwynfor.