Annog myfyrwyr i dderbyn brechiad llid yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
BrechuFfynhonnell y llun, Elena Zaretskaya
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr nawr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau cyn mynd i'r coleg yn yr wythnosau nesaf.

Mae myfyriwr a gamgymerodd symptomau llid yr ymennydd am ffliw y glas yn credu bod cymorth cyd-fyfyriwr wedi achub ei fywyd.

Roedd Levi Lawrence, 21, yn sâl am dair wythnos gydag "annwyd parhaus" nes iddo ddechrau chwydu un diwrnod.

Aeth cyd-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ag ef i'r ysbyty, lle dywedodd meddygon fod ganddo haint meningococol a ddatblygodd i fod yn sepsis.

Treuliodd Levi, sy'n hannu o Wolverhampton, 10 diwrnod yn yr ysbyty ac roedd yna'n ddibynnol ar faglau i gerdded am fisoedd wedyn.

Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau cyn mynd i'r coleg dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r pigiadau'n help i osgoi salwch difrifol fel llid yr ymennydd, y frech goch a septisemia.

'Wedi achub fy mywyd'

"Nid oeddwn yn teimlo'n rhy dda am ychydig wythnosau, ac roeddwn yn credu mai ffliw'r glas oedd yn gyfrifol", meddai Levi.

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Levi Lawrence 10 diwrnod yn yr ysbyty ac roedd yna'n ddibynnol ar faglau i gerdded am fisoedd wedyn

"Ond un bore dihunais yn teimlo'n sâl iawn, roeddwn yn chwydu ac yn ddryslyd, ac yn fuan iawn cyrhaeddais y pwynt lle nad oeddwn yn gallu siarad mewn gwirionedd a braidd yn gallu cerdded."

Mae'n credu bod "ymateb cyflym" cyd-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi achub ei fywyd.

"Treuliais 10 diwrnod yn yr ysbyty gyda llid yr ymennydd a sepsis, ac roeddwn yn sâl iawn.

"Roedd yn gyfnod brawychus iawn, cefais broblemau gyda fy nghoesau a oedd yn golygu fy mod ar faglau am wythnosau wedyn ac rwy'n dal i gael poenau tebyg i sioc drydanol yn fy nghoesau nawr."

Brechiadau 'mor bwysig'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn annog pob myfyriwr i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y brechiadau y derbynion nhw tra'n blentyn er mwyn lleihau eu risg o salwch difrifol, gan gynnwys llid yr ymennydd a'r frech goch.

Fe ddywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae profiad Levi yn dangos mor bwysig ydyw i fyfyrwyr a phobl ifanc sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau rheolaidd diweddaraf, yn ddelfrydol cyn gadael i fynd i'r brifysgol neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gyrraedd yno.

"Mae brechiadau plentyndod arferol yn ddiogel ac yn effeithiol, ac yn amddiffyn yn erbyn canlyniadau difrifol clefydau heintus sydd mor aml ar led ymhlith pobl ifanc sy'n dechrau yn y brifysgol."

Prif symptomau llid yr ymennydd yw:

  • Twymyn sy'n dechrau'n sydyn

  • Cur pen/pen tost

  • Gwddf anystwyth.

Yn aml mae symptomau eraill hefyd:

  • Chwydu

  • Llai o awydd bwyd

  • Dryswch neu anhawster canolbwyntio

  • Twymyn sydyn

  • Cur pen/pen tost difrifol sy'n ymddangos yn wahanol i'r arfer

  • Ffitiau

  • Sensitifrwydd i olau

  • Bod yn gysglyd

  • Syrthni

  • Brech ar y croen.

Pynciau cysylltiedig