Pump o adeiladau mwya' rhyfeddol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna bump adeilad hanesyddol o Gymru wedi eu cynnwys yn y llyfr newydd 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o dŷ fferm gostyngedig yn Sir Benfro i gastell rhodresgar neo-Normanaidd a fu'n berchen i ddiwydiannwr cyfoethog.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 10,000 o adeiladau hanesyddol sy'n cynrychioli 900 mlynedd o ddylunio pensaernïol. Mae rhai'n gewri ac eraill yn glyd, ac maen nhw'n cyfleu cyfoeth, tlodi ac ymdrech ddynol.
Mae Dr Liz Green o Eryri wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 2002, a hi yw'r Uwch Guradur Cenedlaethol dros Gymru a Hanes Pensaernïol. Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae hi'n rhannu beth sy'n gwneud yr adeiladau yma yng Nghymru mor arbennig:
Nid hawdd oedd dewis pump o blith llu o adeiladau hanesyddol gwirioneddol arbennig Cymru wrth ysgrifennu'r llyfr hwn. Roedd rhaid canolbwyntio ar ddangos amrywiaeth a phrinder pensaernïaeth hanesyddol yng Nghymru.
Mae Pont Grog Conwy'n unigryw, ac yn un o'r pontydd crog cyntaf yn y byd. Mae hefyd yn adlewyrchu arloesedd y 19eg ganrif gynnar wrth oresgyn yr heriau mae tirwedd arw Cymru'n eu cyflwyno.
Mae gardd deras anhygoel Powis yn cystadlu â gerddi teras gorau Ewrop, ac mae Treleddyd Fawr - ar ochr arall y sbectrwm - yn atgof bregus o hen ffyrdd o fyw, yn cynrychioli hanes cymdeithasol a'r cysylltiad agos rhwng adeiladau gwledig a'u tirwedd.
Stablau Tŷ Tredegar
Roedd William Morgan (tua 1640-80) yn rhoi pwys mawr ar ei sgiliau marchogaeth, a oedd yn ei dyb ef yn cynrychioli statws a gwroldeb, ac mae'r stablau mawreddog a adeiladwyd ganddo yn cyfleu hyn i'r dim.
Mae stablau ac ysgol farchogaeth Tredegar yn cydoesi â'r ailadeiladu ar y tŷ yn ystod yr Adferiad, tua 1664-72. Mae'r gymhlethfa o adeiladau'n cynnwys ystafelloedd gweision y stabl, ystafell harneisiau a bwyd ac, yn y 18fed ganrif, ychwanegwyd orendy i'r wedd sy'n wynebu'r ardd.
Yn anarferol, mae'r rhes o adeiladau o flaen y tŷ, ac yn ffurfio ochr buarth agored. Mae hyn yn cyfleu ymhellach bwysigrwydd ei geffylau i William Morgan.
Gardd Teras Faróc Castell Powis
Gwelwyd tensiwn crefyddol estynedig yn yr 17eg ganrif, a ffrwydrodd i ddegawdau o ryfel cartref a chwyldro.
Roedd Ieirll Powis yn Gatholigion selog ac yn cefnogi brenhiniaeth y Stiwartiaid, ac roeddent yng nghanol y trybini. Fodd bynnag, rhwng cyfnodau dan glo yn Nhŵr Llundain ac alltudiaeth yn Ffrainc, gwnaeth William Herbert, 3ydd Arglwydd Powis (tua 1626-96), Iarll 1af, Marcwis a Dug teitlog, welliannau sylweddol i'w gastell.
Creodd ystafell seremonïol lawn cystal ag un y Brenin ac yna dechreuodd greu un o'r gerddi terasog Eidalaidd Baróc gorau yn Ewrop. Yn syfrdanol o serth, gan fanteisio'n glyfar ar y brigiad tywodfaen coch y mae'r castell wedi'i adeiladu arno, mae'r arcedau rhaeadraidd hyn, gyda blancedi lliwgar o flodau drostynt a choed hynafol ar eu pennau, yn un o symbolau statws pennaf Powis.
Treleddyd Fawr, Sir Benfro
Gellid disgrifio'r rhan fwyaf o'r adeiladau sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel gwerinol. Maen nhw'n fythynnod, ysguboriau maes a ffermydd, ac mae ein tirweddau gwledig yn frith ohonynt.
Wedi'u hadeiladu o garreg leol, pren a phridd mewn arddulliau a addaswyd i'w cynefin, maen nhw'n adrodd stori'r oes a fu. Hen ffermdy yw Treleddyd Fawr, wedi'i adeiladu o garreg rwbel, gyda tho llechi.
Mae tirwedd Sir Benfro wedi'i siapio gan y prifwyntoedd de-orllewinol, felly mae'r adeilad cyfan wedi'i orchuddio â haenau o wyngalch i wrthsefyll y tywydd garw. Mae hyn yn ymestyn i'r to.
Mae'r tŷ wedi'i gofleidio gan adeiladau eraill y fferm, adeiladau bach sydd wedi'u lleoli blith draphlith o gwmpas yr iard.
Pont Grog Conwy
Gyda'r 19eg ganrif daeth y peirianyddion enwog, arloeswyr fel Isambard Kingdom Brunel (1806-59) a Thomas Telford (1757-1834). Yn 1815 comisiynwyd Telford i wella llwybr y goets fawr o Lundain i Gaergybi.
Yn 1817 cafodd ei ymestyn eto i gynnwys cymal Caer ar hyd arfordir gogledd Cymru. Roedd cymal Lloegr yn syml, yn dilyn y Stryd Watling Rufeinig, ond roedd tirwedd Cymru'n fwy heriol o lawer, gan ysbrydoli gwaith peirianyddol gwych fel Pont Waterloo ym Metws-y-Coed, argloddiau Dyffryn Ogwen, a phontydd crog ar draws afon Menai ac aber afon Conwy, ill dwy'n agor yn 1826.
Castell Penrhyn
Fel yr awgryma ei enw, Castell Penrhyn, mae'r castell Neo-Normanaidd anferthol hwn yn sefyll ar benrhyn, yn estyn allan i afon Menai. Yn sgil gorchestion Richard Pennant (1739- 1808), daeth yr enw Penrhyn i gael ei gysylltu ag arloesi diwydiannol a datblygiad chwarel lechi fwya'r byd, Chwarel Penrhyn ym Methesda gerllaw.
Roedd Richard yn ddisgynnydd i Gifford Pennant, a fu'n berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica yn yr 17eg ganrif. Priododd ag Anna Susannah Warburton, ond bu'r ddau farw'n ddi-blant ac, yn 1816, etifeddodd George Hay Dawkins yr ystâd a chymryd yr enw Pennant. Daeth â'i gyfoeth o siwgr Jamaicaidd gydag ef, a chwyddwyd yn 1835 gan daliad o £14,683 drwy gynllun y llywodraeth a dalodd iawndal i gyn-berchnogion caethweision.
Tua 1820, comisiynodd Dawkins-Pennant y pensaer Thomas Hopper i ddylunio castell newydd, o bosib wedi'i ysbrydoli gan gestyll Edward I yng Nghaernarfon, Biwmaris a Chonwy. Yma fe welwn Hopper yn cofleidio sgiliau a deunyddiau lleol. Mae mentyll simneiau wedi'u cerfio o farmor Môn amryliw, a thynnodd Hopper sylw at lechi Penrhyn ar fyrddau ochr wedi'u cerfo'n gain ac o leiaf ddau wely.
Mae'r llyfr wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a 60 Remarkable Buildings of the National Trust.