Adeiladau sinc: 'Treftadaeth Cymru'
- Cyhoeddwyd
Tafarn, capeli, neuaddau pentref, siediau fferm a rŵan grŵp Facebook i'w clodfori - mae adeiladau sinc yn sicr wedi dod yn rhan o fywyd y Cymry.
A gyda nifer o'r adeiladau 'dros dro' gafodd eu codi ganrif a mwy yn ôl yn dal i sefyll, a'r deunydd yn ôl mewn ffasiwn gan benseiri cyfoes, maen nhw bellach yn rhan ganolog o dirlun y wlad.
Mae'r adeiladau yn rhan o'n treftadaeth ac yn bwysig eu cofnodi
Mae Martin Barlow, o Lanelwy, wedi sefydlu grŵp Facebook i gofnodi lluniau o adeiladau sinc, ddaeth yn ffasiynol yn yr 19eg ganrif gan eu bod yn rhad a syml i'w codi.
Mae gan y grŵp dros 500 o aelodau - y rhan fwyaf o Gymru a gweddill Prydain, ond rhai hefyd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, De America ac Affrica.
Meddai: "Mae'r adeiladau yn rhan o'n treftadaeth ac yn bwysig eu cofnodi.
"Dydi'r grŵp ddim yn rhywbeth academaidd, dipyn o hwyl ydi o ond gobeithio y bydd yn gofnod ar gyfer y dyfodol.
"Mae 'na luniau o bob math o adeiladau, o garej ar Fynydd Hiraethog i'r capeli - y Tin Tabernacles. Be' sy'n ddifyr ydi bob mis ryda' ni'n cael lluniau o adeiladau sinc ar gyfer defnydd doedden ni ddim yn disgwyl.
"Yn amlwg mae pethau fel siediau gardd neu garejis ond mae pethau fel stands i wylio pêl-droed neu gorlan ddefaid ar y mynydd.
"Dwi'n meddwl bod nifer o adeiladau sinc yng Nghymru oherwydd ei fod yn ardal gymharol dlawd - dyna pam bod cymaint rŵan mewn llefydd fel Buenos Aires ac Affrica."
Er bod nifer fawr o adeiladau sinc yn dal i gael eu defnyddio, a rhai fel Tafarn Sinc yng Nghlunderwen wedi dod yn adnabyddus, maen nhw hefyd yn rhan o hanes ac wedi haeddu eu lle yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Mae’r adeiladau sinc sydd yn Sain Ffagan yn ein helpu ni i adlewyrchu’r adeiladau gwerinol sy’n nodweddiadol o’r cyfnod
Yn ôl Dafydd Wiliam, prif guradur adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, roedd sinc, fel brics, yn adnodd chwyldroadol yn yr 19eg ganrif. Roedd yn hawdd ei gludo ar hyd rheilffyrdd newydd y cyfnod a'r defnyddiau yn ddechrau'r diwedd i adeiladau cynhenid Cymreig.
Meddai: "Roedd yn galluogi adeiladu rhywbeth yn sydyn ac yn rhad. Doedd dim rhaid defnyddio cerrig o'r ardal a doedd dim rhaid cael to gwellt.
"Roedd yn galluogi cymdeithasau bychan i godi adeiladau fel capeli neu neuadd bentref yn rhad, a rhywbeth fyddai'n para am ddegawdau gydag ychydig o waith cynnal a chadw. Felly roedd yn adnodd eithaf cymunedol.
"Doedd rhai pobl ddim yn eu hoffi nhw ar y pryd a doedd y syniad o godi capel sinc ddim yn apelio i bawb - ond os nad oedd digon o bres roedd yn galluogi'r gymuned i gael adeilad.
"Fe newidiodd golygfeydd ffermydd ar draws Cymru oherwydd sinc hefyd gydag adeiladau fel y Dutch barns efo'r to crwn, doedd dim rhaid codi siediau enfawr gyda cherrig a llechi. Dydi'r adeiladau sinc ddim yn nodweddiadol Gymreig oherwydd maen nhw i'w gweld ar draws Prydain."
"Yn y shanty towns yn Jamaica roedd gen ti bobl yn cael gafael ar sheet o sinc a defnyddio fo i wneud rhywbeth
Erbyn heddiw mae sinc wedi dod yn ôl i ffasiwn.
Mae'r artist Gareth Griffith, sy'n aelod o'r grŵp Facebook Iron Tin Zinc, wedi rhoi to sinc ar ei stiwdio ym Mynydd Llandygai, ger Bethesda.
"Mae adeiladau sinc yn evocative, mae'n rhywbeth ti'n cofio o dy blentyndod," meddai.
"Geshi'n magu yng Nghaernarfon ac roedd gen ti ambell siop sinc yn yr ardal ac roedd Pafiliwn Caernarfon yn anferth o adeilad efo cladding sinc.
"Ro'n i'n byw yn Jamaica am ddwy flynedd, ac roedd gen ti lot o dlodi, ac yn y shanty towns roedd gen ti bobl yn make do and mend - yn cael gafael ar sheet o sinc a defnyddio fo i wneud rhywbeth.
"Mae gen ti adeiladau sy'n cael eu hadeiladu rŵan efo sinc hefyd. Yn Nant Gwrtheyrn mae 'na adeiladau newydd efo fo, ac yn y Cei yng Nghaernarfon, mae'r adeiladau newydd yn fanno hefyd efo sinc."
Mae'n cael ei ddefnyddio i bethau fel gyrfa chwist, nosweithiau Merched y Wawr, pilates
Un adeilad sinc adnabyddus yng Nghymru ydi Neuadd Bentref Ganllwyd, sydd ar ochr yr A470 ger Dolgellau.
Eglwys ym mhentref Gellilydan oedd yr adeilad yn wreiddiol, cyn cael ei symud ychydig filltiroedd i'r Ganllwyd a'i newid yn neuadd bentref yn ddiweddarach.
Ac i Carys Edwards, sy'n enedigol o'r pentref, mae'n ddefnyddiol am sawl rheswm: "Roedd 'na eisteddfod fach yn cael ei cynnal tair neu bedair gwaith y flwyddyn ers talwm, a rŵan mae'n cael ei ddefnyddio i bethau fel gyrfa chwist, nosweithiau Merched y Wawr, pilates.
"Mae'n ddefnyddiol i fi hefyd pan dwi'n dweud wrth bobl sut i gyrraedd y fferm - troi rhwng yr afon a'r adeilad sinc. Mae pawb yn gwybod wedyn."