Y fenyw gyntaf i sefyll mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fel y fenyw gyntaf i gael lle wrth y bwrdd yn Senedd Prifysgol Caerdydd ac i sefyll mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru, mae'n deg dweud fod Millicent Mackenzie wedi arloesi yn y byd academaidd a gwleidyddol.
Eleni mae hi wedi cael ei hanrhydeddu gyda pharc newydd yng Nghaerdydd wedi ei enwi ar ei hôl. Felly pwy oedd Millicent Mackenzie?
Yr hanesydd Dr Elin Jones sy'n olrhain ei stori.
Prifysgol Caerdydd
Pan sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn 1883 (Prifysgol Caerdydd heddiw) roedd yn rhan o brifysgol ifanc iawn. Dim ond ym 1870 sefydlwyd coleg cyntaf y brifysgol newydd yn Aberystwyth.
A phenodwyd dyn ifanc iawn yn bennaeth ar y coleg newydd yng Nghaerdydd. Roedd John Viriamu Jones, 27 oed ac o Abertawe, eisoes wedi ennill clod fel gwyddonydd - ac fel gweinyddwr hefyd.
Cafodd ei benodi'n bennaeth Coleg Firth, Sheffield (Prifysgol Sheffield erbyn hyn) pan oedd yn 25 oed. Dyn ifanc iawn felly, ac un blaengar, mentrus a hyderus, yn barod i gefnogi syniadau radical a'u gweithredu hefyd. Roedd yn gefnogol iawn i'r ymgyrch i ryddfreinio menywod ac am sefydlu adrannau blaengar yn ei goleg, ac roedd hynny'n cynnwys yr adran addysg.
Nid yw'n rhyfedd felly i Millicent Hester Hughes gael ei phenodi'n ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Ganed Millicent ym 1863, yn ferch i feddyg ym Mryste a chafodd ei haddysg yno ac yn y Swistir cyn hyfforddi'n athrawes yng Nghaergrawnt.
Bu'n dysgu yn Sheffield am gyfnod, ac yna ym 1891 fe'i penodwyd i'r swydd yng Nghaerdydd. Roedd yn gyfrifol am hyfforddi menywod fel athrawesau cynradd ac uwchradd. Enillodd ysgoloriaeth teithiol Gilchrist ym 1893, ac aeth i astudio cyfundrefn addysg yr Unol Daleithiau (ac ymweld â Ffair Fawr y Byd yn Chicago hefyd). Ysgrifennodd adroddiad am hyfforddiant athrawon yn yr Unol Daleithiau.
Gwaith cymunedol
Dychwelodd i'w swydd yng Nghaerdydd, ac ym 1898 priododd Athro Athroniaeth y coleg, John Stuart Mackenzie. Roedd y ddau yn weithgar iawn yng nghymunedau tlawd Caerdydd a chyda'r Workers' Educational Association (Addysg Oedolion Cymru heddiw).
Ond roedd gwaith proffesiynol Millicent yn ennill clod hefyd. Ym 1904 fe'i penodwyd yn gyd-Athro (associate professor) yr Adran Addysg a daeth yn aelod o Senedd y Brifysgol ar yr un adeg - y fenyw gyntaf i gael lle wrth y bwrdd hwnnw.
Cyhoeddodd lyfr ar yr athronydd Hegel a'i ddamcaniaethau ar addysg ym 1909, ac ym 1910 fe'i penodwyd i Gadair Addysg (Menywod) - eto, y fenyw gyntaf i gael y fath gydnabyddiaeth.
A thrwy gydol ei gyrfa ddisglair a'i gwaith cymdeithasol roedd Millicent hefyd yn gweithio gyda'i gŵr i ddatblygu'r Workers' Education Association yng Nghaerdydd ac yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod.
Swffragwyr
Sefydlwyd cangen Caerdydd o'r National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS) ym 1908, ac roedd Millicent yn aelod o'r pwyllgor o'r cychwyn.
Mae'n werth nodi mai trwy ddulliau heddychlon a chyfansoddiadol roedd swffragwyr y NUWSS yn gweithio, ac nid oeddynt yn defnyddio nac yn cefnogi dulliau treisgar y Women's Social and Political Union, sef y swffragetiaid.
Ymddeolodd Millicent a'i gŵr ym 1915 ac er iddynt symud i Lundain am gyfnod, dewiswyd Millicent i sefyll dros y Blaid Lafur yn etholiad seneddol 1918, un o saith o fenywod a ymgeisiodd yn yr etholiad hwnnw a'r unig un i sefyll yng Nghymru.
Colli wnaeth hi, wrth gwrs, ond unwaith yn rhagor roedd hi yn arloesi mewn byd academaidd a gwleidyddol oedd - yn araf iawn - yn dechrau cynnig cyfleoedd i fenywod.
Er fod Millicent a'i gŵr wedi ymddeol ar yr un adeg, nid oedd hynny'n golygu llaesu dwylo. Roedd y ddau dal yn weithgar iawn ym myd addysg ac athroniaeth, gan deithio i'r India, yr Unol Daleithiau a nifer o wledydd Ewrop. Cwrddon nhw â'r arloeswr addysgol Rudolf Steiner yn ystod y cyfnod hwn, a bu Millicent yn ymgyrchu dros ei syniadau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bu hi farw yn 1942, ac mae wedi ei chladdu ym Mryste, ei dinas enedigol.
Parc Mackenzie
Addas iawn yw gweld parc wedi ei enwi ar ei hôl ar dir y brifysgol, a hynny mor agos at brif adeilad Prifysgol Caerdydd. Yn 1903 perswadiodd Viriamu Jones Gyngor Caerdydd i roi darn helaeth o dir i'r coleg, a chodwyd y prif adeilad yn yn ystod y blynyddoedd nesaf, pan oedd Millicent yn aelod o Senedd y coleg.
Fe fyddai hi wedi bod yn rhan o'r trafodaethau a'r cynllunio, ac wedi gweld yr adeiladau'n tyfu a'r coleg yn datblygu ar yr un pryd. Teg iawn yw ei chofio wrth fwynhau'r parc newydd hwn, a cherdded trwy ran o Gaerdydd yr oedd hi yn ei hadnabod mor dda.
Mae Parc Mackenzie tu ôl i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rhwng Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa.
Hefyd o ddiddordeb: