Bywyd fel 'yr unig Iddew yn y pentref'
- Cyhoeddwyd
Dim ond rhyw 2,000 o Iddewon sy'n byw yng Nghymru, ac ymhlith rheiny mae'r Iddewon sy'n siarad Cymraeg yn brin iawn.
Ac i ddau o'r Iddewon prin hynny, mae eu profiadau o fod yn Iddew yn wahanol iawn.
"I fod yn Iddewig, dydi o ddim yn gweithio os dach chi'r unig Iddew yn y pentre'," medd Nathan Abrams, Iddew o Lundain sy'n byw ym Mangor. "Rhaid i chi fod efo Iddewon eraill."
Cafodd Nathan ei fagu gan deulu crefyddol, gan gadw'n kosher, dysgu Hebraeg, a mynd i'r Synagog yn rheolaidd. Bellach yn Athro Ffilm ym mhrifysgol Bangor, mae'n annog myfyrwyr Iddewig i gynnal cymdeithas Iddewig, JSoc, ac mae'n gwneud ymdrech i ddathlu gwyliau Iddewig gyda'i deulu. Hyn i gyd, er ei fod yn Iddew seciwlar.
Pan mae e'n teimlo'n gellweirus, mae'n disgrifio'i hun fel, "Iddew drwg."
Cymharu profiadau
Mae Jasmine Donahaye hefyd yn Iddew seciwlar, ond heb yr awch i fod yn rhan o gymuned Iddewig o gwbl: "Mae'n hollol ddiddorol oherwydd yr unig Iddew yn y pentre ydw i a'r unig iddew oeddwn i fel plentyn. Felly mae'n hollol ddiddorol pa mor wahanol yw dy brofiad di a fy mhrofiad i," medd wrth siarad a Nathan. "A dyna beth sy'n typical o Iddewiaeth. Mae'n diverse!"
Mae'r ddau yn cymharu profiadau fel rhan o raglen Trai Iddewiaeth ar BBC Radio Cymru. Wrth gymharu profiadau'r Iddewon cyntaf ddaeth i Gymru a'r profiad o fod yn Iddew yng Nghymru heddiw, mae Jasmine yn datgelu pryder gwirioneddol: "A dweud y gwir, dyw hi ddim yn teimlo fel mae hi'n 'hollol saff' i fod yn Iddew ar hyn o bryd," meddai. "Nid yng Nghymru yn benodol, ond ym Mhrydain."
Wedi haf o wrthdaro ar y lan Orllewinol, mae gwleidyddiaeth Israel dan y chwyddwydr unwaith eto.
Mae Jasmine hefyd yn academydd sydd wedi ysgrifennu llyfrau am berthynas Cymru ac Israel ac am hanes ei theulu yno hefyd.
"Dwi'n teimlo bod rhaid i fi drwy'r amser baratoi i ymateb i gwestiynau, i ymateb i sialens, i ymateb i prejudices," medd Jasmine. "Os ydw i'n siarad am Israel gyda pobl dwi ddim yn nabod, dwi'n gorfod bod yn hollol ofalus am beth dwi'n dweud, sut dwi'n dweud pethe. Dyna pam dwi'n teimlo'n nerfus. Dwi ddim yn teimlo'n casual am fy hunaniaeth Iddewig."
Mae Jasmine yn cwestiynnu'r ffigurau yn y cyfrifiad, gan ddyfalu bod nifer rhagor o Iddewon yn byw yma, ond nad yw eu hunaniaeth Iddewig yn rhan bwysig o pwy ydyn nhw. Mae hi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i Gymry newid eu syniadau am beth yw Iddew.
Hen agweddau
"Dwi dal yn gorfod delio gyda hen agweddau sydd ddim wedi newid o Iddew fel rhywbeth yn y Beibl! Mae hunaniaeth Iddewig wedi newid, ac mae lot o Iddewon, fel finnau, ddim yn Iddewon mewn ffordd grefyddol nac yn perthyn i unrhyw gymuned Iddewig. Dyna pam mae'n bwysig i ehangu beth dan ni'n neud er mwyn siarad am beth yw Iddew nawr."
Fel cyflwynydd y rhaglen, blaenoriaeth Nathan Abrams yw tynnu sylw at gyfraniad Iddewon Gogledd Cymru at ddiwylliant y wlad: "Mae 'na lot o hanes yma, ond does 'na ddim lot o bobl sy'n gwybod yr hanes."
Hefyd o ddiddordeb:
Mae e'n ymfalchïo yn y ffaith bod olion cyfraniad Iddewon yn drwch ar brif stryd Bangor a sawl man arall. Ym Mangor roedd Synagog arfer bodoli lle mae safle cymdeithas dai, Y Gorlan nawr. Ar y brif stryd hefyd roedd siopau a gweithdai dau deulu blaenllaw, y Wartskis a'r Pollecoffs.
Aeth Morris Wartski ymlaen i agor siop yn Llandudno ac yna Llundain a dod yn y pendraw yn emydd brenhinol. Cwmni Wartski wnaeth greu modrwy briodas y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine gan ddefnyddio aur o Gymru, a nhw hefyd wnaeth fodrwy briodas y Brenin a'r Frenhines Camilla.
Un o aelodau teulu'r Pollecoffs oedd yr Iddew cyntaf i gael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri ym 1968.
"Mae 'na lawer o bobl sy'n cofio'r Pollecoffs, y Wartskis y Shafrans, ond yn anffodus maen nhw'n hen," medd Nathan. "Dwi'n poeni bod yr hanes yn mynd i ddiflannu."
Mae Synagog Llandudno yn gwasanaethu Iddewon sy'n ymweld ar eu gwyliau haf gan fwyaf erbyn hyn. Ond mae'r addoldy yn gartref i greiriau oedd arfer cael eu defnyddio yn synagogau Bangor yn wreiddiol.
Ffoaduriaid
Cafodd hanes y ffoaduriaid Iddewig ddaeth i Gastell Gwrych gryn sylw wedi i I'm A Celebrity ddefnyddio'r safle fel lleoliad ar gyfer cyfres yn ystod y pandemig.
Roedd tua 200 o blant Iddewig wedi llochesu yno ar ôl dianc o gyfandir Ewrop drwy ymgyrch achub y Kindertransport wedi 1939. Grwpiau Iddewig oedd wedi trefnu'r ganolfan, a cheisio paratoi'r plant am fywyd fel oedolion yn Israel.
Yn ôl yr arbenigwr ar y Diaspora Iddewig yng Nghymru, Dr Cai Parry Jones, mae stori'r plant wedi cael ei or-ramantu yn y gorffennol.
"I nifer fawr iawn o'r plant 'ma o'n nhw'n hiraethu am adre', ac am eu rhieni. Yn anffodus cafodd nifer o'u rhieni eu llofruddio yn yr Holocaust. Mae 'na ongl eitha trist i'r adeilad yma. A bod yn onest, i lot o'r plant odd e'n gyfnod anodd iawn," meddai.
Ar ôl 17 mlynedd o fyw ym Mangor, gan deimlo fel seleb wrth fod yr 'unig Iddew yn yr ardal,' mae Nathan Abrams yn mwynhau teimlo'n rhan o'r gymuned erbyn hyn. Mae'n mwynhau cymharu profiadau Iddewig a phrofiadau Cymreig a chwerthin ar eiriau tebyg yn Hebraeg a Chymraeg sydd ag ystyron gwbl wahanol.
Ond yn bennaf, mae'n gobeithio bydd ei raglen newydd, Trai Iddewiaeth, yn helpu cadw cyfraniad Iddewon yng Nghymru ar gof a chadw am flynyddoedd i ddod.
Mae rhaglen Trai Iddewiaeth ar gael ar BBC Sounds..