Gwyntoedd cryfion i daro Cymru ganol yr wythnos

  • Cyhoeddwyd
TonnauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna rybudd melyn am wyntoedd cryfion i bob rhan o Gymru ganol yr wythnos wrth i storm fawr gyntaf tymhorau'r hydref a'r gaeaf daro'r DU.

Mae disgwyl glaw trwm mewn rhai mannau hefyd yn sgil Storm Agnes, medd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol.

Yn ôl yr arbenigwyr, fe allai hyrddiadau o hyd at 60mya daro ardaloedd mewndirol, hyd at 75mya mewn rhai mannau ar hyd arfordir Môr Iwerddon, a "siawns fach y bydd rhai llefydd yn gweld tua 80mya".

Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 12:00 ddydd Mercher 27 Medi tan 07:00 ddydd Iau 28 Medi.

Fe allai adeiladau gael eu difrodi ac mae'n bosib y gallai cyflenwadau trydan gael eu heffeithio, yn ôl y Swyddfa, gyda disgwyl i amseroedd teithio fod yn hirach na'r arfer.

Pynciau cysylltiedig