Storm Agnes: Rhybudd am wyntoedd ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl yr hyrddiadau cryfaf ar yr arfordir
Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ym mhob rhan o Gymru ddydd Mercher wrth i Storm Agnes daro'r DU.
Mae disgwyl i orllewin a gogledd-orllewin Cymru weld rhai o'r hyrddiadau cryfaf, meddai'r Swyddfa Dywydd, dolen allanol, gyda rheiny o bosib yn cyrraedd 75mya.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion lifogydd, dolen allanol ar gyfer y rhan fwyaf o arfordir gogleddol a gorllewinol Cymru.
Mae Irish Ferries wedi canslo rhai teithiau rhwng Caergybi a Dulyn, gan gynghori pobl oedd am deithio ar yr Holyhead Swift i deithio ar long yr Ulysses yn hytrach.
Ac mae cwmni SP Energy yn cynghori pobl i baratoi rhag ofn y bydd yna doriadau i gyflenwadau trydan.
Mae'r cwmni'n rhybuddio y gallai trafferthion ar y ffyrdd "wneud hi'n fwy anodd" i beirianwyr gyrraedd unrhyw fannau ble mae problemau gyda'r rhwydwaith yn codi.

Mae disgwyl i fand o law gyrraedd Cymru erbyn nos Fercher, yn ogystal â gwyntoedd cryf
Ar y cyfan mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 55mya mewn ardaloedd mewndirol, yn ôl yr arbenigwyr, gyda hyrddiadau cryfach ar yr arfordir.
O'r herwydd maen nhw'n rhybuddio bod difrod i adeiladau'n bosib, gyda'r risg y gallai achosi anafiadau a pheryglu bywyd.
Mae rhybuddion llifogydd mewn lle ar gyfer ardaloedd arfordirol gorllewin Môn, Sir Benfro, Ceredigion rhwng Clarach ac Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Llŷn a Bae Ceredigion a gogledd Cymru.
Daeth y rhybudd i rym am 12:00 ddydd Mercher, ac mae'n parhau nes 07:00 ddydd Iau 28 Medi.