Storm Agnes: Cannoedd heb drydan ac oedi i deithwyr

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd am wyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio mai'r arfordir fyddai'n gweld hyrddiadau cryfaf Storm Agnes

Mae cannoedd o dai ac adeiladau yng Nghymru wedi bod heb gyflenwadau trydan dros nos wrth i Storm Agnes daro'r DU.

Daeth rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a ddaeth i rym ymhob rhan o Gymru am 12:00 brynhawn Mercher i ben am 07:00 ddydd Iau.

Fe gafodd hyrddwynt o 84 mya ei gofnodi am 21:00 nos Fercher yn ardal Capel Curig, yng Ngwynedd.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio mai gorllewin a gogledd-orllewin Cymru fyddai'n gweld rhai o'r hyrddiadau cryfaf, gan gyrraedd hyd at 75mya.

Yn y cyfamser, mae'r arbenigwyr wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd, am law y tro hwn, yn rhannau o dde Cymru dros nos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Grid Cenedlaethol, dolen allanol bod bron i 300 o adeiladau heb drydan am gyfnod nos Fercher ar draws de a dwyrain Cymru, gan gynnwys dros 160 yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae Scottish Power hefyd yn ymateb i adroddiadau o golli cyflenwadau yn y gogledd a'r canolbarth, dolen allanol.

Roedd nifer fach o rybuddion llifogydd, dolen allanol yn dal mewn grym yn gynnar ddydd Iau ar hyd mwyafrif arfordir Cymru.

Ar arfordir gorllewin Môn - rhwng Bae Cemlyn a'r Fenai - ac arfordir Llŷn a Bae Ceredigion, mae'r neges 'Llifogydd - byddwch yn barod' mewn grym am bedwar diwrnod arall.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa, gan fod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel.

Maen nhw'n cynghori pobl i gymryd gofal "ar draethau, promenadau, llwybrau arfordirol, ffyrdd, tir isel ac aberoedd".

Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae Irish Ferries wedi gorfod ganslo rhai teithiau rhwng Caergybi a Dulyn, gan gynghori pobl oedd am deithio ar yr Holyhead Swift i deithio ar long yr Ulysses.

Ond oherwydd yr amodau yn gynharach, mae taith yr Ulysses oedd i fod i adael Dulyn am 08:05 wedi cael ei gohirio tan o leiaf 11:00, ac mae teithiau'r Oscar Wilde rhwng Penfro a Rosslare yn ystod y dydd hefyd wedi eu gohirio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm yn ne Cymru rhwng 20:00 nos Iau a 02:00 fore Gwener.

Dywed yr arbenigwyr bod "cryn ansicrwydd ynghylch lleoliad, hyd a pha mor drwm yw'r cawodydd" ond mae yna "siawns y gallai oddeutu 50mm o law syrthio mewn ychydig oriau ar draws rhannau o ardal y rhybudd".

Mae'r ardal dan sylw yn cwmpasu siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig