Dadorchuddio cerflun i Max Boyce yng Nglyn-nedd

  • Cyhoeddwyd
Glyn Nedd
Disgrifiad o’r llun,

Max Boyce yn dadorchuddio cerflun ohono'i hun yng Nglyn-nedd

Daeth cannoedd o bobl ynghyd ar strydoedd Glyn-nedd ar gyfer dadorchuddio cerflun o un o'i meibion enwocaf, Max Boyce.

Mae'r cerflun efydd wedi ei godi ar y stryd fawr fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i ddiwylliant Cymru.

Cafodd y cerflun ei dylunio gan Rubin Eynon, artist lleol, gan ddefnyddio sganwyr 3D.

Mae'r cerflun yn wynebu clwb rygbi Glyn-nedd, lleoliad sy'n agos at galon y canwr.

Mae wedi cefnogi'r clwb rygbi ers yn blentyn ac mae e bellach yn llywydd yno.

Roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 yr wythnos hon. Dywedodd bod y cerflun yn fraint fawr.

"Er fy mod i wedi gwneud cyngherdde' mawr am hanner canrif mae hyn yn teimlo'n wahanol. Rwy'n teimlo yn wylaidd iawn ac yn ddiolchgar tu hwnt ond yn nerfus.

"'Sa i cweit yn gallu ei gredu e.. eu bod nhw yn teimlo mod i'n haeddu y fath beth."

Ymhlith y cannoedd a oedd yn bresennol ar gyfer y dadorchuddio roedd ei gyfaill Syr Gareth Edwards, cyn-fewnwr Cymru.

"Ma' fe'n haeddu fe. Rwy'n gwybod cymaint mae'r rhan hon o'r byd yn ei olygu i Max. Mae e'n trysori'r dre' 'ma."

Pynciau cysylltiedig