Cyhuddo rhedwr o dwyllo yn Hanner Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sion DanielsFfynhonnell y llun, Heno/S4C/Tinopolis
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Sion Daniels ei gyfweld gan raglen Heno S4C ar ôl croesi'r llinell derfyn

Mae honiadau fod rhedwr wedi twyllo yn Hanner Marathon Caerdydd.

Fe welwyd Sion Daniels o Glwb Athletau Llanelli - a gafodd hefyd ei gyfweld ar gyfer S4C - ar y llinell derfyn yn dathlu cwblhau'r ras mewn 67 munud a 40 eiliad.

Byddai'r amser hwnnw yn golygu ei fod wedi gorffen yn 21ain, allan o filoedd o redwyr.

Ond yn ôl y trefnwyr fe dynnodd yr offer oedd yn ei amseru a chyflwyno ffeil ffug wedi'i recordio gan GPS oedd yn cynnwys y cwrs anghywir, a'i defnyddiwyd yn ras y llynedd.

Bydd yn cael ei wahardd o ddigwyddiadau Run4Wales yn y dyfodol oni bai ei fod yn cyflwyno prawf ei fod wedi cwblhau'r cwrs.

Ffynhonnell y llun, Run4Wales
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 27,500 gymryd rhan yn yr hanner marathon ddydd Sul

Tyfodd pryderon pan gafodd ei weld yn dathlu ar y llinell derfyn, ond fe'i welwyd ymhell y tu ôl i'r rhedwyr ar y pwynt hanner ffordd.

Fe ddywedodd Michael Darke o Gaerdydd, sy'n aelod o CDF Runners, ei fod yn "siomedig iawn gweld y math yma o ymddygiad mewn ras".

Dywedodd Run4Wales y byddai Mr Daniels wedi gorfod rhedeg record byd am o leiaf saith milltir [11 cilomedr] i gwblhau'r cwrs yn yr amser yr oedd yn ei hawlio, gan ychwanegu nad oedd yn gallu gwneud hynny o ystyried ei amserau blaenorol.

Ychwanegon nhw fod dadansoddiad o safle'r rhedwyr ar wahanol adegau o'r ras yn awgrymu na fyddai'n bosib iddo fod wedi cwblhau'r ras mewn 67 munud.

Wedi'r ras fe anfonodd Mr Daniels e-bost at y trefnwyr yn gofyn pam nad oedd wedi ei gynnwys yn y canlyniadau, gan ddarparu ffeil GPS fel tystiolaeth, ond o lwybr y ras yn 2022 oedd hwn.

Ffynhonnell y llun, RUN 4 WALES

Cadarnhaodd trefnwyr Run4Wales fod cystadleuydd wedi ei gyhuddo o dwyllo, gan gredu ei fod wedi peidio â rhedeg cymal dwy filltir Llyn Parc y Rhath ger diwedd y ras.

Dywedodd Athletau Cymru, y corff llywodraethu, eu bod wedi eu hysbysu am athletwr "o bosib yn torri'r rheolau" yn Hanner Marathon Caerdydd.

"Bydd Athletau Cymru nawr yn gweithio gyda'r trefnwyr, Run4Wales, ac yn dechrau adolygiad yn unol â Rheolau a Gweithdrefnau Disgyblu Athletau Cymru."

Pynciau cysylltiedig