Coleg 'heb ymchwilio'n iawn' i honiadau o ymosodiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Sydney Feder ac Alyse McCamishFfynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sydney Feder ac Alyse McCamish yn anhapus a'r ffordd wnaeth y coleg ymdrin â'u cwynion

Mae dwy gyn-fyfyrwraig wedi ennill eu hachos yn erbyn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, ar ôl i staff fethu ag ymchwilio yn iawn i honiadau o ymosodiadau rhyw.

Roedd Alyse McCamish a Sydney Feder, sydd ill dwy yn 26 oed ac wedi dewis peidio aros yn ddienw, wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y coleg drwy'r Llys Sifil.

Daeth y barnwr yn Llys Sirol Canol Llundain i'r casgliad nad oedd y coleg wedi ymchwilio, nac ymateb yn iawn i honiadau'r menywod am ymosodiadau a chamymddwyn rhywiol gan fyfyriwr arall.

Mewn datganiad, dywedodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd nad oes dim yn bwysicach iddynt na diogelwch eu myfyrwyr, a'u bod yn ymddiheuro am y ffaith fod y merched wedi cael eu brifo gan y modd y gwnaeth y coleg ymdrin â'u cwynion.

Yn ôl y cyfreithiwr oedd yn gweithredu ar ran y merched, dyma'r tro cyntaf i ddyfarniad o'r fath gael ei wneud yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y barnwr fod gan brifysgolion ddyletswydd i ofalu am fyfyrwyr, ac i gynnal "ymchwiliadau rhesymol ar ôl derbyn honiadau o'r fath gan fyfyrwyr".

Fel rhan o'r dyfarniad, bydd Alyse McCamish yn derbyn £14,000 mewn iawndal, gyda Sydney Feder yn derbyn £5,000.

Bydd disgwyl hefyd i'r coleg dalu costau cyfreithiol, ond dydi'r union swm ddim wedi ei gadarnhau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd y ddwy o'r Unol Daleithiau i astudio yn y coleg pan yn eu harddegau

Dywedodd Alyse McCamish: "Pan wnes i ddweud am y tro cyntaf fod cyd-fyfyriwr wedi ymosod yn rhywiol arna i, ac wedi ymddwyn yn dreisgar ac mewn modd oedd yn rheoli, ymateb cyntaf y coleg oedd 'ei fod yn swnio fel perthynas oedd wedi mynd o'i le'.

"Doedden nhw ddim yn fy nghoelio i bryd hynny, a hyd at ddechrau'r achos, roedd y coleg yn dweud y bydda nhw'n fy nghroesholi ynglŷn â'r honiadau."

Wedi'r dyfarniad, dywedodd Sydney Feder: "Mae hi bron yn chwe blynedd ers i mi ddweud bod rhywun wedi ymosod arna i yn y coleg.

"A nawr bod y dyfarniad yma wedi dod, am y tro cyntaf, dwi'n teimlo fod rhywun wedi clywed yr hyn oedd gen i ddweud, ac wedi cytuno fod yr hyn ddigwyddodd i mi yn anghywir.

"Dwi wir yn gobeithio na fydd rhaid i unrhyw fyfyriwr arall yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd brofi'r hyn yr ydw i ag Alyse wedi.

"Ond yn anffodus, does gen i ddim hyder na fydd y coleg yn ailadrodd yr un fath o ymddygiad, gan fy mod yn nabod eraill sydd wedi dioddef oherwydd eu hagwedd tuag at gamymddwyn rhywiol."

Ffynhonnell y llun, Alyse McCamish
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms McCamish yn gweithio ar raglen ddogfen sy'n sôn am ei phrofiadau hi, a phrofiadau myfyrwyr eraill mewn prifysgolion o amgylch y DU

Fe symudodd y ddwy o'r Unol Daleithiau i astudio yn y coleg pan yn eu harddegau.

Fe wnaeth Ms McCamish, o Tennessee, symud i Gymru pan oedd hi'n 19 oed wedi iddi gael ei derbyn i'r Coleg Cerdd a Drama ar ôl clyweliad llwyddiannus.

Mae hi'n honni i gyd-fyfyriwr ymosod yn rhywiol arni yn 2016, rhywbeth y mae'r myfyriwr yn ei wadu.

Yn ystod yr achos, dywedodd Ms McCamish nad oedd staff wedi ei chymryd o ddifrif pan wnaeth hi adrodd yr honiadau yn 2017, gan gyhuddo'r coleg o "ddweud celwydd" ac o "feio dioddefwyr".

Mae hi'n dweud ei bod hi wedi gofyn i'r coleg wahanu hi a'r myfyriwr dan sylw, a'i bod hi wedi gwneud popeth yn ei gallu i'w osgoi.

Cafodd y myfyriwr ei wahardd am bythefnos ac mewn llythyr at fyfyrwyr fe wnaeth ymddiheuro i "unrhyw un a oedd yn teimlo'n anniogel ac yn anghysurus" yn ei gwmni.

Ffynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Does gan Sydney Feder "ddim hyder" yng ngallu'r coleg i fynd i'r afael â'r broblem

Fe symudodd Sydney Feder o Connecticut i Gymru pan oedd hi'n 18 oed.

Mae hi'n honni bod yr un myfyriwr yr oedd Ms McCamish yn honni oedd wedi ymosod arni hi yn 2016, wedi ymosod arni tra'r oedd hi ar ben ei hun yn ystafell newid y merched yn y coleg yn 2017.

Lleoliad 'diogel a pharchus'

Mewn datganiad, dywedodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd: "Ers 2017 rydyn ni wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn ymateb i adroddiadau o'r fath, sut yr ydyn ni'n mynd ati i ddelio a chwynion neu bryderon a'r ffordd yr ydyn ni'n cefnogi ein myfyrwyr.

"Mi fyddwn ni'n cyhoeddi crynodeb o'r fath o newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf.

"Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau fod y Coleg Cerdd a Drama yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ei fod yn fan dysgu diogel a pharchus.

"Fyddwn ni byth yn stopio gwrando ar, a chydweithio gyda staff a myfyrwyr... Rydyn ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod y coleg yn rywle lle mae modd i fyfyrwyr ddysgu a ffynnu."

Mae Alyse McCamish bellach yn gweithio ar raglen ddogfen sy'n sôn am ei phrofiadau hi, a phrofiadau tebyg myfyrwyr eraill mewn prifysgolion o amgylch y Deyrnas Unedig.