Galw am gynnig gwres ar bresgripsiwn i'r mwyaf bregus
- Cyhoeddwyd
Dylai gwres gael ei roi ar bresgripsiwn i bobl yng Nghymru sydd â chyflyrau difrifol ar yr ysgyfaint ac sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni, yn ôl elusen.
Mae pennaeth Asthma and Lung UK Cymru, Joseph Carter yn dweud bod angen "i ni ystyried gwresogi yn yr un modd ag yr ydyn ni'n ystyried cynnyrch meddygol".
Yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, "gellir priodoli cyfran fawr o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf… i dlodi tanwydd a chartrefi oer, dolen allanol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ariannu cynlluniau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cymorth uniongyrchol i bobl â chyflyrau iechyd penodol.
'Faint mwy all pobl ddioddef?'
Rhaid i Louise, o Gasnewydd, gymryd moddion dyddiol at y fogfa [asthma] - ac mae tywydd oer yn gwneud y cyflwr yn waeth.
Ond mae'r gweithiwr gofal cymdeithasol yn dweud bod pwysau cynyddol costau byw yn golygu y bydd yn rhaid iddi fod yn ofalus gyda'r gwres y gaeaf hwn.
"Allwn ni ddim cynnau pob gwresogydd," meddai Louise, 53.
"Gewn ni'r gwres 'mlaen am gyfnod bach yn y 'stafell ymolchi neu un o'r 'stafelloedd gwely - 'mlaen am awr i dorri ar yr oerfel."
Mae Louise yn gweithio'n llawn amser, fel mae ei gŵr, ond maen nhw'n dal i fod yn talu biliau ynni y gaeaf diwethaf.
Mae costau ynni wedi gostwng yn ddiweddar, ond maen nhw'n uwch na'r lefel cyn y rhyfel yn Wcráin, ddechreuodd flwyddyn a hanner yn ôl.
Mae'r rhan fwyaf o'r cymorth ychwanegol a gafodd ei gynnig gan lywodraethau Prydain a Chymru y gaeaf diwethaf bellach wedi dod i ben, ac mae costau cynyddol bwyd a phethau eraill yn ei gwneud hi'n anodd i bobl.
"Rwy'n bod yn bositif, gwên ar fy ngwyneb o hyd ac rwy'n hapus i wynebu'r her," meddai Louise.
"Ond mae 'na adegau lle rwy'n mynd adre a meddwl faint mwy gall pobl ddioddef?"
Yn ôl Joseph Carter o Asthma and Lung UK Cymru, mae'r "gaeaf yn amser peryglus iawn i bobl sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint".
"Os oes tymheredd is yn eich cartref, ry'ch chi'n fwy tebygol o ddatblygu feirws anadlol, ry'ch chi'n fwy tebygol o gael tamprwydd neu leithder, ac mae'r rheiny yn gallu achosi heintiau anadlol," meddai.
"Felly ry'n ni'n awyddus iawn i weld mwy o gefnogaeth wedi ei dargedu ar gyfer pobl sydd â chyflyrau cronig ar yr ysgyfaint."
Mae Mr Carter eisiau gweld ffyrdd gwahanol o geisio rhoi'r gefnogaeth i bobl, gan gynnwys presgripsiwn i gadw tai yn gynnes. Rhagnodi cymdeithasol yw'r enw ar y math yma o gymorth.
Mae'n golygu bod meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr eraill gofal sylfaenol yn gallu cyfeirio pobl at wasanaethau eraill lleol - nid rhai clinigol - er mwyn cefnogi eu iechyd a'u lles.
Sut i ofalu am y frest yn yr oerfel?
Cyngor Caerwyn Roberts, ffisiotherapydd sy'n arbenigo ar yr ysgyfaint:
Gwisgo digon o haenau o ddillad i gadw'n gynnes;
Sicrhau cysondeb yng ngwres y tŷ fel bod dim newid tymheredd wrth symud o un ystafell i'r llall;
Y tymheredd gorau yw 18-21C.
Cynllun peilot
Mae arbrawf yn cael ei gynnal mewn rhannau o Loegr a'r Alban, ble mae staff y gwasanaeth iechyd yn targedu pobl sydd yn fregus yn feddygol, ac sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, er mwyn rhoi help ychwanegol.
Yn ystod cynllun peilot y llynedd, roedden nhw'n talu am ynni'r rhai oedd yn cymryd rhan.
Eleni, mae addasiadau yn cael eu rhoi am ddim i'r cartrefi er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Energy Systems Catapult - asiantaeth sy'n hyrwyddo newid o fewn maes ynni er mwyn lleihau allyriadau carbon - sy'n cydlynu'r cynlluniau peilot.
Fe dderbyniodd 823 o bobl yn Aberdeen, Sir Gaerloyw, Llundain a Dyffryn Tees bresgripsiwn gwresogi yn ystod y cynllun peilot y llynedd, s gafodd ei ariannu gan gwmni ynni BP.
Yn ôl Dr Rose Chard o'r asiantaeth, fe weithiodd y peilot yn "arbennig o dda".
Ychwanegodd bod y staff sydd wedi rhedeg y cynllun wedi dweud ei fod yn "gyflym ac yn hawdd i'w weinyddu, ac mae'r trigolion wedi dweud bod eu hiechyd, eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol, wedi gwella o ganlyniad i gymryd rhan".
Mae Dr Chard yn credu y gallai'r cynllun fod yn gost-effeithlon ar raddfa fwy, drwy gadw pobl yn iach yn ystod y gaeaf gan dynnu pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl asesiad gan Brifysgol Sheffield Hallam, byddai angen i tua 5,000 o bobl gymryd rhan er mwyn gallu asesu a fyddai'r cynllun yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd.
Dywedodd yr adroddiad bod modd mesur y budd i'r rhai oedd yn rhan o'r cynllun, gan ddweud ei fod yn rhoi £5 o "werth cymdeithasol" i bob £1 a gafodd ei wario.
Mae Dr Chard yn awyddus i ehangu'r cynllun i Gymru.
"Buasem, wrth gwrs, yn awyddus i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'w gwasanaethau sy'n cefnogi cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd, ond mae'n rhaid i fyrddau iechyd, yn ogystal ag awdurdodau lleol, a thimau iechyd cyhoeddus fod yn rhan ohono."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ariannu cynlluniau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cymorth uniongyrchol i bobl â chyflyrau iechyd penodol, ble gallai eu cyflwr waethygu o ganlyniad i fyw mewn cartref oer."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022