Cymuned unigryw i bobl 'fod yn driw' i'w hunain

  • Cyhoeddwyd
Cymuned Dawnsfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mewn dawnsfeydd, mae pobl yn dod ynghyd i gystadlu a mynegi ei hunain

Yng nghanol Caerdydd, mae 'na gymuned sydd â'i gwreiddiau yn Efrog Newydd.

Yn dathlu dawns, cerddoriaeth a chreadigrwydd, mae Cymuned Dawnsfa Cymru yn torri tir newydd i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.

"Mae'r gymuned dawnsfa yn is-ddiwylliant tanddaearol oedd wedi ei chreu gan fenywod traws o liw a phobl o liw LHDTC+ yn Efrog Newydd yn y 70au," meddai Leighton Rees, sefydlydd y gymuned yng Nghaerdydd.

"Nes i roi neges ar Facebook a chael ymateb anhygoel," meddai Leighton.

"Nes i feddwl bod 'na alw mawr am y fath gymuned yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Leighton Rees wnaeth ddechrau'r gymuned, gan weld bwlch am y fath beth yng Nghymru

Mae pobl yn dod ynghyd i gystadlu mewn digwyddiadau sy'n cael eu hadnabod fel dawnsfeydd.

Yn debyg i basiant, mae'r cystadleuwyr yn perfformio o flaen beirniaid, gydag unigolion yn perthyn i dai gwahanol wrth gystadlu.

"Mae tŷ fel teulu," meddai Leighton.

"I bobl cwiar o liw oedd wedi eu diarddel gan eu teuluoedd, roedd y gymuned yn ffordd o ffeindio mamau a thadau, brodyr a chwiorydd."

O fewn y dawnsfeydd, mae cystadleuwyr yn ymddangos mewn categorïau amrywiol.

Disgrifiad,

Mae'r dawnsfeydd yn fodd i bobl fynegi ei hunain, meddai Malori

I aelodau yng Nghaerdydd, mae'r sin dawnsfa wedi datblygu i fod yn rhan bwysig o'u hunaniaeth.

"Ry'n ni wedi bod yn brysur iawn," meddai Malori, aelod traws o'r gymuned.

"Mae'r ddawnsfa yn cynnig allanfa wahanol i bobl cwiar."

Gyda phobl ar draws y byd yn dathlu mis Pride, mae'r grŵp yn dweud bod 'na bwyslais ar leoliadau cynhwysol i'r gymuned LHDTC+.

"Mae pethau wedi newid ond mae 'na dal le i fynd," meddai Leighton.

"Mae hi'n bwysig bod 'na leoliadau diogel yng Nghaerdydd, ac yng Nghymru. Mae'r gymuned yma yn gadael i rywun fod yn driw i'w hun."

Pynciau cysylltiedig