Hannah Cain yn ôl i Gymru i herio'r Almaen a Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Merched CymruFfynhonnell y llun, Joe Giddens

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn cynrychioli Cymru yn y gemau oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddiwedd y mis.

Bydd y garfan o 26 yn wynebu'r Almaen ar 27 Hydref yn Sinsheim, a Denmarc ar 31 Hydref yn Viborg.

Mae'r ymosodwr Hannah Cain yn dychwelyd i'r garfan wedi anaf, ac mae'r chwaraewr canol cae Josie Longhurt yn ymuno â'r garfan hefyd.

Dyma'r tro cyntaf i bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA gael ei gynnal.

Mae Cymru wedi cael dechrau anodd yn y gystadleuaeth, gan golli o 1-0 yn erbyn Gwlad yr Iâ, ac o 5-1 yn erbyn Denmarc.

Carfan Cymru

Laura O'Sullivan (Merched Dinas Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Manchester United);

Hayley Ladd (Manchester United), Josie Green (Caerlŷr), Gemma Evans (Manchester United), Rhiannon Roberts (Real Betis), Charlie Estcourt (Reading), Lily Woodham (Reading), Esther Morgan (Hearts);

Anna Filbey (Crystal Palace), Ella Powell (Bristol City), Sophie Ingle (Chelsea), Angharad James (Tottenham Hotspur), Jess Fishlock (OL Reign), Rachel Rowe (Rangers), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Southampton), Ceri Holland (Lerpwl), Ellen Jones (Sunderland), Josie Longhurst (Reading);

Kayleigh Green (Charlton Athletic), Hannah Cain (Caerlŷr), Carrie Jones (Bristol City), Elise Hughes (Crystal Palace), Mary Mcateer (Sunderland).

Pynciau cysylltiedig