Banciau bwyd yn gwario 'miloedd o bunnau' ar fwyd bob mis

  • Cyhoeddwyd
Mae 'na amcangyfrif y bydd dros filiwn o becynnau bwyd yn cael eu dosbarthu yng Nghymru'r gaeaf hwnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na amcangyfrif y bydd dros filiwn o becynnau bwyd yn cael eu dosbarthu yng Nghymru'r gaeaf hwn

Mae banciau bwyd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn gwario miloedd o bunnau ar fwyd bob mis, yn ôl pennaeth banciau bwyd Arfon.

Dywedodd Trey McCain fod pobl yn dal i roi bwyd i'r canolfannau, ond bod y galw am y gwasanaeth wedi tyfu yn aruthrol.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn rhybuddio fod banciau bwyd Cymru yn paratoi at eu gaeaf prysuraf erioed.

Y disgwyl, medden nhw, ydy y bydd mwy na 600,000 o bobl angen cefnogaeth rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn amcangyfrif y bydd dros filiwn o becynnau bwyd yn cael eu dosbarthu yng Nghymru'r gaeaf hwn.

Yn ôl arolwg diweddar gan yr elusen, roedd 93% o'r 282 o fanciau bwyd a gafodd eu holi wedi gorfod prynu bwyd eu hunain er mwyn ateb y galw.

Mae traean o'r banciau bwyd hynny hefyd yn pryderu ynglŷn â'u gallu i gynnal eu gwasanaeth dros y misoedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dydi Trey McCain ddim yn ymwybodol o unrhyw fanc bwyd sydd ddim yn gorfod prynu bwyd eu hunain

Trey McCain ydy pennaeth banciau bwyd Arfon - gan gynnwys canolfannau Dyffryn Nantlle ac Ogwen.

"'Da ni'n gweld dipyn o bobl yn dod i'r banc bwyd, yn enwedig yn ddiweddar wrth i'r tywydd oeri, 'da ni'n gweld mwy a mwy o bobl sy'n stryglo i dalu'r nwy a'r trydan felly ma' nhw angen help efo bwyd hefyd," meddai.

"Wnaetho' ni ddechrau gweld effaith yr argyfwng costau byw yn y flwyddyn ddiwethaf - 'nôl ym mis Ebrill - a tydi o ddim wedi gwella i bobl sydd ar waelod ein cymdeithas ni."

'Pawb yn ei gweld hi'n anodd'

Mewn cyfweliad â rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Mr McCain nad oedd yn ymwybodol o unrhyw fanc bwyd sydd ddim yn gorfod prynu bwyd eu hunain erbyn hyn.

"Ma' pawb yn ein rhwydwaith ni yn ei gweld hi'n anodd ar y funud," meddai.

"Roedd hi'n arfer bod yn wahanol iawn, ond dwi'n falch i ddweud bod faint o fwyd sydd angen i ni brynu yn lot llai na rhai banciau eraill.

"Mae'r banciau bwyd yn gwario - 'da ni'n sôn am fil, dwy fil, tair mil o bunnau ar fwyd pobl mis.

"'Da ni'n lot fwy ffodus yn ein hardal ni, ond 'da ni yn mynd allan ac yn gwario rhwng £700 a £1,000 bob mis ar fwyd, a fyddai wedi dod i mewn yn y gorffennol."

Ychwanegodd Mr McCain: "Mae pobl yn dal i roi, ond mae'r galw wedi tyfu, dyna be 'di o."

"'Da ni'n cael arian gan lot o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys y siopau lle 'da ni'n derbyn rhoddion... 'da ni hefyd yn cael grantiau gan yr awdurdodau lleol fel Cyngor Gwynedd i ni yn Arfon ac Ymddiriedolaeth Trussell... ac wedyn ma' 'na nifer o bobl sy'n rhoi yn fisol i'r banc bwyd."

Dywedodd Jo Harry, Pennaeth Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru: "Dydyn ni ddim eisiau gorfod rhybuddio bob gaeaf fod pethau yn mynd yn waeth o ran banciau bwyd yng Nghymru, ond dyna ydy'r gwir amdani.

"Dydi banciau bwyd ddim yn ateb tymor hir, ond wrth i ni barhau i geisio dod o hyd i ddatrysiad fyddai'n golygu y byddai modd cau canolfannau yn barhaol, mae eich banciau bwyd lleol wir angen eich cefnogaeth chi.

"Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn wynebu newyn oherwydd tlodi... Bob blwyddyn 'da ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn troi at ddefnyddio banciau bwyd, a dydi hynny ddim yn iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Yn ystod 2022-23 a 2023-24 roedd y cymorth yn werth mwy na £3.3bn.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i ddiogelu incwm aelwydydd a sicrhau bod pobl yn gallu talu eu costau hanfodol. Cyn Cyllideb yr Hydref, rydym yn parhau i bwyso ar San Steffan i gynyddu cefnogaeth."

Pynciau cysylltiedig