Costau byw: Galw ar fanciau bwyd yn cynyddu

  • Cyhoeddwyd
SiopaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd 56% o'r rhai a holwyd eu bod wedi gwneud heb bryd o fwyd, neu'n prynu llai o fwyd

Mae arolwg gan y BBC wedi canfod fod pobl sy'n ei chael yn anodd ymdopi gyda chostau byw cynyddol yn torri ar eu prydau bwyd a theithiau yn y car er mwyn arbed arian.

Dywedodd 56% o'r 4,011 o bobl ar draws y DU a holwyd eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd, ac roedd yr un gyfran wedi bod yn prynu llai o fwyd.

Roedd 66% o'r rheiny a holwyd yn dweud fod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, a 45% wedi gweld effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol.

Dywedodd 81% eu bod nhw bellach yn poeni am gostau byw.

Galw cynyddol ar fanciau bwyd

Un o ganlyniadau hynny ydy fod mwy a mwy o bobl yn troi at fanciau bwyd.

Un o'r banciau bwyd hynny sydd wedi gweld cynnydd mewn galw ydy Banc Bwyd Llandysul.

Cafodd y banc bwyd ei sefydlu yno yng Nghapel Seion bedair blynedd yn ôl, ac yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwirfoddol sy'n ei redeg, mae eu profiadau nhw yn ategu canfyddiadau'r arolwg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor eu bod yn gweld fod mwy o bobl eisiau sgwrs i drafod eu pryderon

"Mae problemau ar gynnydd - mae hynny'n berffaith amlwg," meddai'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.

"Mae'r galw ar y bencydd bwyd ar gynnydd yn ogystal. Ry'n ni'n profi cynnydd yma yn Llandysul."

Rhedeg allan o fwyd

Yn dangos y galw cynyddol, fe wnaethon nhw redeg allan o fwyd yr wythnos ddiwethaf, a gwirfoddolwyr wedi gorfod mynd ati i brynu bwyd er mwyn gallu cyflenwi'r angen.

Dywedodd hefyd ei bod yn anodd trefnu ymlaen llaw gan fod y nifer sy'n gofyn am becynnau bwyd yn amrywio'n fawr o wythnos i wythnos.

Mae hynny wedi newid o gyfnod y pandemig, meddai'r Parchedig, pan roedd y niferoedd yn aros yn llawer mwy cyson.

"Yr hyn sydd yn digwydd nawr yw bod 'na gynnydd aruthrol mewn un wythnos a wedyn falle dim yr wythnos wedyn, ac wedyn cynnydd aruthrol eto.

"Mae paratoi ar gyfer rhywbeth chi ddim yn siŵr sy'n mynd i ddigwydd yn dipyn o gamp."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal yng Ngapel Seion wedi'i llunio er mwyn bod yn le i gymdeithasu a sgwrsio

Ychwanegodd eu bod yn gweld fod mwy o bobl eisiau sgwrs hefyd i drafod eu pryderon.

"Mae'n amlwg fod pobl yn dymuno cwrdd â phobl eraill a thrafod â phobl eraill, ac achwyn eu cwyn yn ogystal," meddai'r Parchedig ap Gwynfor.

Yng Nghapel Seion, gyda help rhaglen Prosiect Pum Mil S4C, mae ardal yno wedi'i llunio er mwyn bod yn le i gymdeithasu a sgwrsio.

Pynciau cysylltiedig