Caernarfon: Dim digon o dalebau bwyd sy'n 'gwneud gwahaniaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n rhannu talebau bwyd am ddim yng Nghaernarfon wedi gorfod dod i ben yn gynnar gan fod y "galw yn ofnadwy, ofnadwy o uchel".
Wedi helpu tua 700 o bobl mewn wythnos, daeth i'r amlwg yn ystod un o'r sesiynau bod y grant o £9,000 oedd yn ariannu'r cynllun - sy'n cael ei redeg gan fudiad Porthi Dre - wedi darfod.
Roedd 100 o unigolion eraill yn disgwyl mewn ciw ar y pryd - ond mi fu'n rhaid iddyn nhw fynd adref yn waglaw.
Yn ôl un o wirfoddolwyr y fenter, dylai mynd i'r afael â thlodi fod yn "flaenoriaeth rhif un" a dim ond yr awdurdodau yn Llundain sy'n gallu cynnig yr "atebion go iawn".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi "cymorth uniongyrchol o £1,200 i filiynau o gartrefi y llynedd" tra fod Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n "gwario mwy na £1.6bn er mwyn helpu pobl drwy'r anghydfod costau byw".
Talebau yn 'neud lot o wahaniaeth'
Mae Lorna Billinghurst yn un o'r rheiny gafodd gymorth pan oedd y cynllun yn dal i redeg.
Dywedodd bod y talebau gwerth £30 - oedd i'w gwario yn Tesco - wedi gwneud "lot" o wahaniaeth.
Ond dydy hi'n synnu dim bod 'na gymaint o alw.
"Mae bob dim yn codi, yn dydy?" meddai.
"Mae 'mil gas a 'letrig i 'di mynd fyny i £319 mewn tri mis i'w gilydd rŵan, [ac] mae'n mynd fyny eto.
"Lle maen nhw'n disgwyl i ni gael pres i wneud bwyd?"
'Y peth gwaethaf dwi wedi 'neud erioed'
Y Cynghorydd Dewi Jones, sy'n gwirfoddoli gyda Porthi Dre, wnaeth dorri'r newyddion drwg i'r rheiny oedd yn disgwyl yn y ciw pan sylweddolodd y tîm nad oedd arian i dalu am fwy o dalebau.
"Yn anffodus, roedd yn rhaid i fi fynd allan a dweud 'dyna ni, does 'na ddim mwy'," meddai.
"Roedd gorfod dweud wrth gymaint o bobl 'sori, alla' i'm helpu chi', roedd o'n deimlad ofnadwy. Ac mae'n un o'r pethau gwaethaf dwi wedi gorfod gwneud."
Bwriad gwreiddiol y fenter oedd defnyddio'r grant i rannu talebau bwyd dros dair wythnos, gyda phum sesiwn bob wythnos - un ym mhob ward y dref. Daeth yr arian i ben yn ystod y pumed sesiwn.
"Mae lefel y galw sydd yna a'r bobl sydd angen cymorth gymaint, gymaint uwch na be' 'dan ni'n gallu gynnig," meddai'r Cynghorydd Jones.
"Mae 'na gynlluniau fel hyn yn bodoli ond mae'r atebion go iawn yn gorfod dod gan y llywodraeth."
Dydy o ddim yn credu bod delio â thlodi yn ddigon o flaenoriaeth i Lywodraeth y DU yn enwedig.
"I fi hwnna ddylai fod yn flaenoriaeth rhif un i'r llywodraeth.
"Heb wneud yn siŵr bod ein plant yn tyfu fyny'n iawn, does 'na fawr o ddyfodol i'r wlad, ac wedyn mae hynna'n mynd i mewn i bob math o bethau o ran sut maen nhw'n dysgu, sut weithwyr sydd gen ti wedyn yn dy economi, mae o i gyd yn clymu at ei gilydd."
'Mae o'n lot o help i fi'
Un elfen o waith Porthi Dre oedd y cynllun talebau Tesco, ac ymhlith eu prosiectau eraill mae cynllun dosbarthu bagiau bwyd sy'n digwydd bob dydd Mercher.
Mae defnyddwyr y gwasanaeth yma yn talu £3 i lenwi bag gyda chynnyrch o'u dewis - fel cig, tiniau, llysiau a ffrwythau - a fyddai'n siŵr o fod yn llawer drytach yn y siopau.
Daeth Myra Jones draw i sesiwn yr wythnos yma.
"Mae'n handi cael bwyd fel hyn, mae o werth o i ddod i lawr yma," meddai.
"Mae gas a letrig a pethau 'di codi, erbyn diwedd yr wythnos does gen ti ddim llawer o dy bres ar ôl, so mae rhywbeth fel hyn am £3 yn werth ei gael."
Yn ôl Myra, 66, mae'r gwasanaeth yma'n help iddi gadw ei safonau byw.
"Dwi ddim yn meddwl y buaswn i'n gallu cario 'mlaen fel ydw i rwan, i ddweud y gwir wrtha' chi - mae o'n lot o help i fi."
Cymorth llywodraethau
Wrth ymateb, dywedodd Llywodaeth y DU eu bod yn "cydnabod pwysau costau byw cynyddol a dyna pam ein bod wedi sicrhau cymorth uniongyrchol o £1,200 i filiynau o gartrefi y llynedd - gan gynnwys £400 tuag at gostau ynni."
Ychwanegodd llefarydd y "byddwn yn darparu £1,350 pellach i'r aelwydydd mwyaf bregus yn 2023-24".
"Mae'n cynllun Sicrwydd Pris Ynni hefyd wedi sicrhau arbediad o £900 y gaeaf hwn i aelwyd arferol, ry'n yn cynyddu budd-daliadau a'r Pensiwn Gwladol yn unol â chwyddiant - sef 10.1% - o fis Ebrill ac ry'n yn ymestyn ein cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru o £50m yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn helpu pobl Cymru gyda chostau hanfodol," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn gwario mwy na £1.6bn er mwyn helpu pobl drwy'r anghydfod costau byw" a'u bod wedi "rhoi bron £15m i fanciau bwyd yng Nghymru".
"Er hynny mae'r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn destun pryder ac ry'n am i Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am drethi a'r system les, i weithredu ar frys mewn modd ystyrlon," ychwanegodd llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022